Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

D. Ddu o Hiraddug. 16.—Dwned Einion Offeiriad. 17—Dwned Simwnt Fychan. 18.—Llyfr Achau Deheubarth. 19.—Achau y pum' llwyth, a phymtheng llwyth Gwynedd. 20.—Llyfr Achau, ar ddull newydd, gan Mr. R. F. 21.—Amseroni, gyda nodau R. F. ar gofrestr damweiniau, o oes Gwrtheyrn hyd y flwyddyn 1269. 22.—Liber Landavensis, allan o lyfrgell Ioan Selden. 23.—Ardrethau deiliaid Owain Glyndwr, a Syr W. Gruffydd, o'r Penrhyn, a chastellydd yr Holt ar Ddyfrdwy. 24.—Brutiau y brenhinoedd, y tywysogion, y Saeson, &c. 25.— Barddoniaeth, fyrdd, &c. Ymhlith gweithiau myfyrddwys ein hynafiaethydd, yr oedd nodiadau ar lyfrau ysgrifen, megis Llyfr Monachlog Dinas Basing; Nodiadau helaethion ar yr hen awdwr Gildas, Nennius, a Brut Caradog o Lan Carfan, gyda sylwadau ar amrywiaeth deuddeg o hen gopiau ar femrwn. Nodau ar y Trioedd Ynys Prydain. Nodiadau ar lyfrau argraffedig, megis y Monastican, gan Syr W. Dugdale: Primordia, gan Archesgob Usher; Calenig, gan Ioan Leland; Hen Awduron, gan yr Esgob Bale; History Cymru, gan Dr. Powel; Y Gorsafau Rhufeinaidd, gan Antoninus, &c. Gadawodd hefyd fyr hanes o'i daith o Feirion i Fynwy; Cylchau Meirionydd; Hanes Tylwyth Cors y Gedol, &c. Ond yr unig waith a gyhoeddwyd gan Mr. R. F. oedd ei "British Antiquities Revived," &c. Rhydychain, 1662—1p. 11s. 6d. Argraffwyd ef yn y Bala, yn 1834, 4 plyg. (Ceir cofiant lled gryno am Robert Fychan, yn ngwaith Gwallter Mechain.)

GRIFFITH, Parch. ROBERT, ydoedd fab i Griffith a Mary Roberts, o Dafarn y Ty Mawr, Dolgellau, ac a anwyd Hydref 13eg, 1770. Ymunodd yn ieuanc â chymdeithas y Methodistiaid Calfinaidd. Cawsai ysgol led dda, gyda golwg ar iddo fyned yn swyddog yn y gyllidfa, yn yr hyn y methodd. Ymgrwydrodd oddicartref hyd Liverpool, mewn cysylltiad â rhyw alwedigaeth arall. Arferai pan yno, ar bob hamdden a allai hebgor, heb esgeuluso ei gyd—gynulliad ei hun, fyned i wrando y diweddar Barch. Samuel Medley, gweinidog Saesneg poblogaidd perthynol i'r Bedyddwyr, ac o'r hwn yr oedd yn hoffus iawn. Yn nghyfnod terfysgiadau chwyldroad Ffrainc, dychwelodd i Ddolgellau, gan ymsefydlu fel masnachydd, a dechreuodd wneyd ei hun yn ddefnyddiol trwy fyned oddiamgylch i gynal cyfarfodydd gweddiau a