Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chynghori, yr hyn a derfynodd mewn cael ei anog i ddechreu pregethu. Yn Nghymdeithasfa y Bala, Mehefin, 1814, neillduwyd ef i weinyddu yr ordinhadau. Hwn oedd yr ail ordeiniad ymhlith y Methodistiaid. Er nad oedd yn rhyw hoff iawn o deithio oddicartref, gorfodid ef gan daer gymhelliadau ei gyfeillion i fyned i deithiau lled bell, yn ol arferiad y Corff, hyd i eithafoedd y Deheubarth, ac hefyd i Lundain, Manchester, &c. Yr oedd yn dwyn mawr zel dros y Gymdeithas Fiblaidd Frytanaidd a Thamor, ac efe oedd ysgrifenydd y gangen gynorthwyol o honi yn Dolgellau. Dadleuai gyda zel dros yr achos cenhadol. Yr oedd yn frwdfrydig iawn yn achos Rhyddhad y Caethion. Pan ddechreuodd yr achos dirwestol yn Nghymru, efe a'i croesawodd, ac a barhaodd yn ymdrechgar o'i blaid hyd ei ddiwedd. Gŵr o ychydig siarad oedd efe; byddai fel pe buasai wedi rhagbarotoi o'r blaen pa beth a ddywedai, gan mor ochelgar ydoedd rhag dweyd dim yn amryfus. Fel pregethwr, eglurai a chymhwysai ei faterion yn araf a phwyllog, heb ddyrchafu ei lais, na dangos un cynhyrfiad yn ei wedd na'i ddull. Ei arfer oedd lloffa addysgiadau rhwydd a buddiol oddiwrth ei destyn, gan ei gefnogi yn fynych â chymhariaethau neu hanesynau priodol. Er nad oedd yr hyn a elwid yn bregethwr poblogaidd, yr oedd gwrandawyr o archwaeth a barn yn gymeradwy o hono. Ystyrid ef yn ddyn o bwys yn y Corff. Bu farw Gorphenaf 22ain, 1844, yn 74 oed.—(G. Lleyn), Geir. Byw., Liverpool; Geir. Byw., Aberdar.

GRUFFYDD ab ADDA ab DAFYDD, ydoedd fardd enwog, a fu byw o'r flwyddyn 1360 hyd 1390. Y mae llawer o'i ganiadau wedi cael eu diogelu mewn ysgrifen; ac y mae ffug-chwedl, neu fabinogi, a elwir "Breuddwyd Gruffydd ab Adda," wedi cael ei hargraffu yn y Greal. Lladdwyd ef yn Nolgellau, lle mae ei gorff yn gorwedd hyd heddyw. Ysgrifenwyd ei farwnad gan Dafydd ab Gwilym, ac y mae wedi ei hargraffu ymysg ei weithiau barddonol.-(Geir. Byw., Liverpool; Geir. Byw., Aberdar.)

HUGHES, CATHERINE, ydoedd ferch y Parch. John Jones, offeiriad Llanegryn, ac a anwyd yn y flwyddyn 1732. Yr oedd Mr. Jones o deulu athrylithgar-yr un teulu a Khys Jones, o'r Blaenau; canys arferai alw y gwr o'r Blaenau yn "gefnder." Bu iddo ddeg o blant-pedwar o feibion, a chwech o ferched. Bu dau fab yn yr Eglwys, un yn apothecari i deulu Sior III., a'r llall yn