Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fasnachydd gwin. Nid yn unig rhoddodd Mr. Jones ddysgeidiaeth ieithyddol i'w feibion, ond hefyd i'w ferched; yn enwedig i'w ferch Catherine, yn yr hon y canfyddai athrylith foreuol, o'r hyn y cymerodd fantais i'w gwneyd yn helaethach ei gwybodaeth yn yr awduron dysgedig na nemawr o foneddigesau ei hoes, ac oherwydd hyny gellir ei galw yn Elizabeth Carter y Cymry. Dangosodd Catherine Hughes yn ei hieuenctyd siamplau awenyddol ag a fuasai yn anrhydedd i'r beirdd enwocaf. Priododd â Rice Hughes, Ysw, Cyfreithiwr, o'r Cemaes, yn Sir Drefaldwyn, yr hwn oedd yn foneddwr cymdeithasgar, a pharod ei leferydd. Cafodd hi ei hanrhydeddu â chyfeillgarwch y rhai dysgedicaf yn Nghymru, yn enwedig yr hyglod Helicon Llwyd, o Sir Feirion. Y mae rhai o'i llythyrau mewn rhyddiaeth a barddoniaeth eto ar gael. Yr oedd yn esiampl o ymddygiad Gristionogol ymhob sefyllfa gymdeithasol. Bu iddi deulu lliosog, un o ba rai oedd y Parch. Robert Hughes, Periglor Dolgellau.—(G. Lleyn.)

HUMPHREYS, Parch. ELLIS, Llanengan, oedd bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Sir Gaernarfon. Ganwyd ef yn Dolgellau, yn y flwyddyn 1806. Arferai wrando ar y Methodistiaid Calfinaidd er yn blentyn. Pan yn 13eg oed, aeth yn fugail defaid i amaethwr yn y gymydogaeth, ac ymhen rhyw ysbaid o flynyddoedd aeth yn wehydd; a chyda'r gorohwyl hwn aeth oddi cartref—i Swydd Gaernarfon, y mae yn debyg. Ymhen rhyw gymaint o amser daeth mater ei enaid i bwyso ar ei feddwl; a hysbysodd hyny i hen frawd crefyddol, yr hwn oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr; a rhoddodd y brawd hwnw gynghorion priodol iddo, a chymhellodd ef i ddyfod gydag ef i eglwys yr Annibynwyr, i hyn yr ufuddhaodd. Yn 1829, daeth i Lanengan, lle y priododd yn 1830. Ymhen blwyddyn neu ddwy wedi hyny dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr, a bu yn ddefnyddiol a Ilafurus tra yn eu plith. Yn 1835, ymadawodd â'r Annibynwyr am ryw resymau ag oedd yn ei foddloni ef; ac ymunodd a'r Trefnyddion Calfinaidd. Ymhen tua thair blynedd dechreuodd bregethu drachefn, a bu yn ddiwyd gyda'r gwaith tra y gallodd. Fel pregethwr ymdrechai fwy am gyraedd cydwybodau ei wrandawyr nag am eu difyru. Teithiodd trwy Dde a Gogledd. Gafaelodd y darfodedigaeth ynddo tua'r flwyddyn 1846, ac yn 1847, bu farw yn 41 bed.—(Geir. Byw., Aberdar.)