Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynau. Gwnaed llawer cynyg trwy deg a garw gan Iorwerth IV. a'i bleidwyr i gael y Castell o'i feddiant, ond yn gwbl ofer; gydag ychydig wŷr efe a heriai yn y gaer gadarn hono holl alluoedd y Yorkiaid, tra nad oedd ond dwy gadarnfa eraill yn y deyrnas heb blygu i'w hawdurdod. Wedi blino o'r diwedd parodd y brenin i Wilym Herbert, Iarll Penfro, yn 1468, sef ymhen saith mlynedd ar ol esgyniad Iorwerth i'r orsedd, a dymchweliad tŷ Lancaster, gymeryd Castell Harddlech, beth bynag fyddai y canlyniadau. Ac wedi bod yn gwarchae ar у castell am ysbaid gorchymynodd yr Iarll iddo roddi y lle i fyny iddo ef, gan fygwth yn erwin os na wnai hyny. Y mae atebiad y gwron dewr o Harddlech yn werth i'w gadw mewn cof tra bydd Cymry yn genedl:— "Ewch a dywedwch i'ch meistr fy mod un waith wedi amddiffyn castell yn Ffrainc nes yr oedd holl hen wragedd Cymru wedi clywed am y peth, ac yr amddiffynaf hwn eto nes y clyw holl hen wragedd Ffrainc am yr amddiffyniad." Bu i'r atebiad gynddeiriogi yr Iarll yn ddirfawr, a gwnaeth ymosodiad yn y fan, a bu ymladdfa fawr, a Dafydd yn orchfygwr. Ar hyn aeth yr Iarll ymaith, gan adael rhwng ei frawd, Syr Risiart Herbert, â Dafydd. O'r diwedd gorfu ar Dafydd roddi y lle i fyny i Syr Risiart oherwydd newyn. Fe ddywedir ar lafar gwlad mai hen wraig o Harddlech a hysbysodd Syr Risiart am y ffrwd ddwfr oedd yn diwallu yn ddirgelaidd breswylwyr y castell, ac iddo yntau dori ei phen yn y fan am iddi fradychu y fath wroniaid. Ond ni roddodd y lle i fyny cyn cael sicrwydd amodol am ei fywyd ef a'i wŷr, ond nid oedd y brenin yn foddlawn ar hyn, a gwrthodai gadarnhau yr amod. Pan wybu Syr Risiart hyn dywedodd; Cymered eich Mawrhydi fy einioes i yn lle einioes y penaeth Cymreig, ond rhaid cyflawni yr amodau, neu ynte mi a roddaf Dafydd yn ol yn y Castell, a chewch chwithau anfon y neb y mynoch i'w gymeryd." Parodd hyn i'r brenin gydsynio; a thyna gafodd Syr Risiart am ei lafur, sef ei fywyd i Dafydd ab Ieuan ab Einion. Fe ddywedir mai ar yr achlysur hwn y cyfan soddwyd yr alaw odidog "Ymdaith Gwŷr Harlech," Pa beth a ddaeth o'r arwr dewr o Harddlech ar ol hyn nis gwyddom. (Pennant's Tours; Geir. Byw., Liverpool).

DAFYDD NANMOR.—Saif Nanmor yn Swydd Feirion, er ei fod yn rhan o blwyf Beddgelert.[1] Trigai Dafydd Nanmor yn Ngae Ddafydd, ger Hafodgaregog, hen balas Rhys Goch Eryri.

  1. Symudwyd plwyf Nantmor o Feirion i Sir Gaernarfon ym 1895