Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oyclopedia; Hoare's History of Wiltshire; Britton's Beauties of England and Wales; Campbell's Books on Wales; Gunn's Tracts; Meyrick's Cardiganshire Lore; Chalmers's Caledoniá; Coxe's Publications, &c. Y mae hefyd liaws o ganiadau, llythyrau, a thraethodau, &c., y rhai a ymddangosasant, rhai yn llyfrau ar eu penau eu hunain, fel "Hu Gadarn o'i eiddo. Cywydd ydyw hwn o dri chaniad, gan Idrison, 12mo bds., Llundain, 1822. Y mae eraill o'i eiddo mewn cyhoeddiadau cyfnodol, megis "An outline of the characteristics of the Welsh." Ysgrif alluog anarferol o'i eiddo a ymddangosodd yn Transactions of the Cymrodorion, Hefyd y mae lliaws o erthyglau yn y cyhoeddiadau crybwylledig, ac eraill nas gwyddis pa faint, a lliaws o'r rhai hyny heb ei enw priodol ef wrthynt, fel na cheir byth allan eu hawdwr, oddieithr iddynt gael eu hadnabod ar gyfrif eu rhagoroldeb.

PUGH, Parch. WILLIAM, o Lanfihangel y Pennant, yn nghantref Meirionydd, pregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef Awst 1, 1749. Nid oes genym fawr o hanes Mr. Pugh yn fachgen. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn Nolgellau. Yr oedd yn 40 oed pan ddechreuodd bregethu, a chafodd lawer iawn o helbulon yn nechreuad ei weinidogaeth trwy yr erlid llym oedd y pryd hwnw. Fel pregethwr yr oedd o ran ei ddull a'i ystum yn, syml a dirodres, a'i lais yn beraidd ac eglur. Bu farw Medi 14, 1829, wedi crefydda am 50 mlynedd, a phregethu am 40 mlynedd, yn 80 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanfihangel y Pennant.

PUGH, JOHN, Ysw., (Ieuan Awst) ydoedd fardd a llenor enwog yn ei ddydd. Ganwyd ef yn Nolgellau, yn y flwyddyn 1784. Cyfreithiwr ydoedd wrth ei alwedigaeth. Nid oes genym. nemawr o'i hanes, gadawn i'r bardd lefaru am dano:—

"Gwyddai am holl agweddion—ysgrifiaeth,
Rhifyddiaeth, mawr fôddion;
Bydoniaeth—seriaeth, llys Ion,
Alsoddiaeth a'i dlysyddion."

"E fynodd holl elfenau—Gomeriaeth,
Gem eurwych tafodau;
Ol iaith clêr, gwŷr Elaeth clau,
Geraint Fardd Glas o'r gorau.

"Ei bêr ddawn mewn barddoniaeth
Heb beidiaw fu'n ffrydiawn'n ffraeth."

Y mae gan y bardd lawer yn ychwaneg i'w ddyweyd am dano ond gadawn ar hynyna. Bu farw Chwefror 16, 1839, yn 55 oed.