Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Grynhoad Owen Jones, a William Owen." Llundain, 1789. "Collection of Poems, published by W. Owen. 1789." Dr. W. O. Pughe oedd y casglydd. 4. Cyfieithu Barddoniaeth Llywarch Hen i'r Saesneg. "The Heroic Elegies and other Pieces of Llywarch Hen, Prince of the Cumbrian Britons: with a Literal Translation, by William Owen. Y Gwir yn erbyn y Byd. London, &c. 1792." 5. Ei brif orchestwaith—ei "Eiriadur Cymraeg a Saesneg." Daeth rhyw gyfran o'r Geiriadur allan yn 1793; a chyfran arall yn 1799; a daeth allan yn gyflawn yn 1803. Dyma waith, wrtho ei hun, yn ddigon i anfarwoli enw ei awdwr mewn unrhyw wlad fwyaf cyfoethog o enwogion! 6. "The Works of Taliesin, a Bard of the sixth century. With a Literal English Version and Notes. By William Owen. London: E. Williams, 1793." 7. "The Cambrian Register," Llundain. Cyf. I. am 1795; yr ail am 1796; a'r olaf am y flwyddyn 1818. Y golygydd oedd Dr. W. O. Pughe. 8. "Cynghorion Priodor o Garedigion i Ddeiliaid ei dyddynod." Llundain, 1800. Cyfieithiad yw y llyfr hwn o "Cardiganshire Landlord's Advice to his Tenants." Milwriad Johnes yw yr awdwr, a Dr. W. O. Pughe yw y cyfieithydd. 9. "Cyhoeddiad gan y Brenin." 1800. Y cyfieithydd i'r Gymraeg oedd Dr. W. O. Pughe. 10. "Myvyrian Archaeology of Wales," yn dair cyfrol; daeth allan o 1801—7. Hen ysgrifau anghyhoeddedig Cymreig ydynt, a gasglwyd gan Dr. Pughe, Owen Jones (Owain Myfyr), ac Edward Williams (Iolo Morganwg). Dywedir iddynt gasglu digon o hen lawysgrifau i wneyd 60 o gyfrolau 4 plyg. 11. "Llyfr y Resolution," &c., 1802. Cyfieithiad o lyfr Seisnig yw hwn; yr awdwr ydoedd Robert Gwynn; y cyfieithydd, Dr. Davies, o Fallwyd; a golygydd y pedwerydd argraffiad, Dr. W. O. Pughe. 12. "Egluryn Ffraethineb, sef Dosbarth ar Retoreg," &c. Cyfansoddwyd y gwaith hwn mewn rhan gan William Salesbery, a gorphenwyd ef gan Henry Parry, o'r Maesglas, sir Fflint, ac a argraffwyd gyntaf yn 1595, ac ail argraffwyd ef yn 1807, dan olygiad Dr. O. Pughe. (Rhy faith i fanylu.) Efe yw awdwr "Cambrian Biography;" cyfieithydd y" Traethawd ar drin tir;" "Paradise Lost;" "Heber's Palestine;" "Gray's Bard;" "Caneuon Hemans;" a'r "Mabinogion" i'r Saesneg; golygydd y Greal; cyhoeddydd ei "Fuchdraeth Gymreig;" "Dyheuwyd Cristion." Ysgrifenodd lawer i Rees's En-