Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PUGHE, WILLIAM OWEN, D.C.L. Ganwyd ef ar y 7fed dydd o Awst, 1759, yn Ty'nybryn, yn mhlwyf Llanfihangel-y-Pennant. Yn fuan wedi geni William, symudodd ei rieni i Egryn, yn Ardudwy. Anfonwyd ef i'r ysgol yn Altringham, gerllaw Manchester, pan yn bur ieuanc. Profodd mewn amser byr ei fod yn meddu meddwl cryf, ac amgyffred cyflym. Ymsefydlodd yn Llundain pan yn 17 oed; a dechreuodd ei fawredd ddyfod i'r golwg yn fuan yno. Yr oedd yn rhy fawr i anghofio ei Gymraeg; yn rhy fawr i wadu ei genedl, &c. Darllen a myfyrio llyfrau oedd tueddfryd cryfaf y bachgen, a'r llyfrau hyny gan mwyaf yn dwyn perthynas â'r Cymry a'u hiaith. "Rheolai ei holl ddarlleniad â barn bwyllog, oleuedig, ac annibynol." Tua'r flwyddyn 1782 daeth yn gydnabyddus â Robert Hughes, neu Robyn Ddu o Fôn," Owen Myfyr, ac amryw enwogion Cymreig eraill, y rhai oedd yn dwyn zel angerddol dros "Gymro, Cymru, a Chymraeg ;" a'i arwyddair yntau fyddai, dyrchafu ei genedl, ei iaith, a'i wlad i uwch pareh, ac i fwy o sylw. Yn y flwyddyn 1806, daeth etifeddiaeth fechan yn eiddo iddo gerllaw hen dref Dinbych; a chyn pen hir symudodd y Doctor yno i fyw. Yn y flwyddyn 1816 bu ei wraig farw, yr hon a briodasai yn y flwyddyn 1790, ac o'r hon y cafodd ddwy ferch ac un mab. Tuag amser cyhoeddiad ei Eiriadur, etholwyd ef yn aelod o'r Gymdeithas Henafiaethol; a chafodd D.C.L. o Brifysgol Rhydychain tua'r flwyddyn 1824. Yn haf y flwyddyn 1835, aeth i ymweled â'i hen ardal enedigol, a chyn nemawr o ddyddiau bu farw yn Dolydd—can, plwyf Talyllyn, Mehefin 3ydd, 1835. Nid llawer o'r Cymry sydd wedi efrydu y Gymraeg mor drwyadl, gwneyd cymaint o les i lenoriaeth Cymru, a gwneyd y fath egni i roddi cyfeiriad newydd iddi, ag a wnaeth y Dr. William Owen Pughe. Ceisiwn yma roddi crynodeb o'i lafur llenyddol:—1. Y gwaith llenyddol cyntaf ag y cawn enw Dr. O. Pughe mewn cysylltiad âg ef yw, History of Wales, in nine Books, by the Rev. W. Warrington," London, 1788. Y mae yr awdwr, yn ei ragymadrodd, yn cydnabod ei rwymau i Mr. William Owen, Llundain, am ddiwygio llythyraeth y geiriau a'r enwau Cymraeg. Yr ydym yn deall hefyd fod parthlen o Gymru ynddo, ac achau Tywysog Cymru, o eiddo Dr. W. O. Pughe. 2. Mewn undeb âg Owain Myfyr yn casglu a golygu Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym—" Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym. O