Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awd campus ar "Hawl a chymhwysder pob dyn i farnu drosto ei hun," ac hefyd "Gatechism yr Ymneillduwyr," a thraethodau eraill. Cyhoeddodd lyfr arall rhagorol yn dwyn yr enw "Drych y Cymunwr." Treuliodd 30 mlynedd yn Mostyn. Yr oedd yn un o'r dynion cadarnaf yn nghyngorau yr undeb y perthynai iddo, yn bregethwr grymus a synwyrol, yn gyfaill cywir a diffuant; ac fel ysgrifenwr, nid oedd genym ei ragorach yn Nghymru. Cyfranodd lawer iawn o ysgrifau campus i'r Dysgedydd, ynghydag amryw fisolion ereill, a charem yn fawr weled ei holl waith wedi eu casglu a'u cyhoeddi. Bu farw y gŵr mawr hwn yn Israel, Rhagfyr 23ain, 1868, a chladdwyd ef yn nghladdfa Seion, ger Treffynon. Yn ei farwolaeth y mae Cymru wedi colli un o'r dynion goreu a galluccaf, ac y mae enwad yr Annibynwyr wedi ei amddifadu o un o'i addurniadau penaf.—Geir. Byw., Aberdar.

PUGH, HUGH, y telynwr enwog o Ddolgellau. Mab ydoedd i Mr. Richard Pugh, Dolgellau, arweinydd i'r gribawg a'r uchelfawr Gadair Idris. Yr oedd yn un o naw o blant, tri o'r rhai oedd awyddus a medrus fel chwareuwyr ar amrywiol offerynau cerdd. Gwrthddrych y cofiant hwn oedd yr ieuengaf o'r plant, a hynododd ei hun yn dra ieuanc fel chwareuwr medrus ar y delyn Gymleig. Pan nad oedd ond naw oed, enillodd yr arian-dlws yn Ninbych. Yn Eisteddfod Beaumaris, yn 1832, cafodd yr anrhydedd o chwareu o flaen ei Mawrhydi y Frenhines, yr amser hyny y Dywysoges Victoria, a'i Huchelder Brenhinol, Duces Caint, ac anrhegwyd ef gan y Frenhines âg ardderchog dlws arian, fel un o'r ymgeiswyr buddugol ar yr achlysur. Yn Awst yr un flwyddyn, anrhegwyd ef drachefn gan Arglwyddes Rodney, â thlws ysblenydd, o delyn arian Gymreig, fel ymgeisydd buddugol yn Eisteddfod Caerdydd. Yn 1836, derbyniodd dlws arian yn Eisteddfod y Bala. Er fod pawb a'i hadwaenai yn ei gyfrif fel un o'r telynorion enwocaf yn ei oes, ac wedi ei ddyrchafu felly mewn amryw Eisteddfodau, ni chydnabyddai ef ei hun ei fod yn deilwng o'r fath anrhydedd, ond yn wastadol cyfrifai ei hun yn iselaf. Felly, mawr gerid ef, nid yn unig gan ei berthynasau a'i gyfeillion, ond gan bob gradd o ddynion a'i hadnabu, oherwydd ei addfwynder, a'i fawr diriondeb tuag at bawb, ac ymhob cyfeillach y byddai. Nisgwyddom y dydd y ganed ef, na'r dydd y bu farw, eithr claddwyd "ef yn barchus yn nghladdfa Bunhill Fields, Llundain.