Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1850. Dywedir ei fod yn ŵr ieuanc o feddwl, cof, a thalent fwy na'r cyffredin.

PUGH, Parch. HUGH, gweinidog yr Annibynwyr yn y Brithdir, ger Dolgellau. Mab ydoedd i Robert a Mary Pugh, o'r Perthi-llwydion, Brithdir, lle y ganwyd ef Tachwedd 22ain, 1779. Cafodd ysgol dda pan yn ieuanc yn Nolgellau, a phan yn 13 oed, aeth i ysgol High Arcol, Swydd Amwythig. Pan o gylch 16 oed, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod gan y Parch. Dr. Lewis, yn Brithdir. Pan yn 18 oed, dechreuodd bregethu, a dywedir ei fod yn dderbyniol a phoblogaidd, trwy fod ei bregethau mor hynod o ddengar, ei lais yn beraidd, a'i wresogrwydd yn danbaid. Pan yn 20 oed, aeth i Athrofa Gwrecsam, o dan ofal y Parch. J. Lewis. Yn 1802, neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, a gwnaed ef yn weinidog y Brithdir. "Yr oedd wedi cyraedd gwybodaeth helaethlawn o bethau Duw, ac o wahanol ganghenau yr athrawiaeth fawr sydd yn ol duwioldeb. Heblaw fod cryfder ei alluoedd naturiol yn sicr uwchlaw y cyffredin, yr oedd ei awydd i wybod y gwirionedd, megis ag y mae yn yr Iesu yn ddirfawr a pharhaus," Nid ydym yn sicr o'r flwyddyn y bu farw. Claddwyd ef yn Dolgellau.

PUGH, Parch. HUGH, Mostyn, gweinidog yr Annibynwyr yn Mostyn, Swydd Fflint. Ganwyd ef yn nghymydogaeth Towyn, yn 1802. Cafodd ysgol dda pan yn blentyn. Pan yn 13 oed, anfonwyd efi Lundain i fod yn glerc cyfreithiwr, lle y bu am chwe' blynedd. Yr oedd tuedd cryf ynddo at ddarllen er yn fore, ac wedi myned i Lundain, cafodd bob cyfleusdra i foddloni ei dueddiad. Yr oedd tueddiad meddwl Mr. Pugh yn fwy rhesymegol na barddonol, dychymygol, a rhamantus. Yr oedd yn hynod am reswm, neu ffaith, yn sail gadarn i bob peth. Yn Mehefin, 1822, dychwelodd o Lundain i Towyn, oherwydd afiechyd. Yn niwedd y flwyddyn 1822, ymunodd âg eglwys Annibynol Towyn. Yn 1823, aeth i gadw ysgol i Lanfihangel-y-Pennant, ger Towyn; ac yn niwedd yr un flwyddyn y dechreuodd bregethu, pan yn 20 oed. Yn 1824, aeth i gadw ysgol i Lwyngwril, ac yn Mai, 1826, aeth i Bethel, ger y Bala, i gadw ysgol, ac urddwyd ef yn Llandrillo, ar ddydd Mawrth, y 3ydd o Orphenaf, 1827. Blodeu oes weinidogaethol Mr. Pugh oeddynt yr un-mlynedd-ar-ddeg a'dreuliodd yn Bethel a Llandrillo. Yn y tymor hwn y cyhoeddodd ei draeth