Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iawn, ac yn "Galfin cymedrol," fel y dywedir o ran ei farn. Y mae lliaws o erthyglau o'i eiddo wedi ymddangos yn y Dysgedydd. Hefyd cyhoeddodd a helaethodd Holwyddoreg yr Ymneillduwyr Protestanaidd y Parch. S. Palmer. Bu farw Hydref 13, 1862, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys y plwyf, Nannerch, y dydd Gwener canlynol.

PRICE, Parch. W., M.A., Dolgellau, a addysgwyd yn Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychain, lle y graddiwyd ef yn M.A. yn 1619. Efe oedd y cyntaf a lanwodd y swydd o ddarllenydd y llith ar athroniaeth foesol, a sefydlwyd gan Dr. Thomas White, a chyhoeddodd gyfrol ar y pwnc hwnw yn 1624. Yn 1631, rhoddwyd iddo berigloriaeth Dolgellau, lle y trigianodd o hyny allan, ac y priododd ferch i'r hynafiaethydd enwog, Robert Fychan o'r Hengwrt. Bu farw yn Nolgellau yn 1646, a chladdwyd ef yn yr eglwys hono.

PUGH, ELLIS, a anwyd yn mhlwyf Dolgellau, yn nghantref Meirionydd, yn Mehefin, 1656. Pan yn 18 oed ymunodd â'r Crynwyr, a daeth yn fuan i gryn gyfrifoldeb yn eu plith. Yn 1686, ymfudodd ef a'i deulu a lliaws o'u cyfeillion drosodd i'r America, i wladychfa newydd William Penn, yn Pensylvannia. Yn 1706, ymwelodd â gwlad ei enedigaeth, ac yn 1708, dychwelodd yn ol i Bensylvannia, America, lle yr arosodd hyd ei farwolaeth yn Hydref 3ydd, 1714, neu yn ol G. Lleyn, yn 1718. Dywedir fod Ellis Pugh yn ddyn didwyll a gonest, ac yn uchel ei gymeriad ymhlith ei gydnabod. Ysgrifenodd lyfr o'r enw, Anerch i'r Cymry i'w galw oddiwrth y llawer o bethau at yr un peth angenrheidiol er mwyn cadwedigaeth eu heneidiau," ond ni chafodd ei argraffu hyd 1782, pryd yr ymddangosodd yn Llundain, 24 plyg, 212 o dudalenau: y llyfr hwn yn benaf sydd wedi cadw ei enw ar dir coffadwriaeth.

PUGH, Parch. H. D., gweinidog yr Annibynwyr yn y Drefnewydd. Ganwyd ef yn Bryncrug, ger Towyn Meirionydd, yn 1820. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn eglwys Saron, pan yn 18 oed. Yn yr eglwys hon y dechreuodd bregethu pan tua 21 oed. Yn fuan aeth i'r athrofa dan addysg y Parch. Michael Jones, lle y bu am dair blynedd. Yn 1845, derbyniodd alwad eglwysi Main a Meifod, Sir Drefaldwyn. Yn 1849, gadawodd Meifod, gan dderbyn galwad oddiwrth eglwys Annibynol y Drefnewydd, yn yr un sir, lle y bu hyd ei farwolaeth, ar 19eg o Hydref