Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Justification."—6, "Mortification of Sin."—7, "On the Nature of Apostacy," &c.—8, "Sermons."—9, "Sermons."—10, "Arminian Controversy."—11, "Arminian Controversy."—12, "Socinian Controversy."—13, Rights and Duties of Dissent." 14, "Popish Controversy."—15, "Church Government."—16, "Church Government." Y mae erthyglau galluog ar Dr. Owen, gan y Parch. N. C. Jones (Cynhafal), wedi ymddangos yn y Traethodydd am 1868, 66, 133, a'r Traethodydd am 1869, 270. Bu Dr. Owen farw Awst 24, 1683, yn 67 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Bunhill Fields.

OWEN, LEWIS, neu y Barwn Owen, ydoedd fab Owen ab Hywel ab Bleddyn, Ysw., o'r Llwyn, ger Dolgellau, yn nghantref Meirionydd, a chŷff rhai o'r teuluoedd hynaf yn Nghymru. Yr oedd Lewis Owen yn un o'r boneddwyr mwyf cyfrifol yn Nghymru, ac yn meddu etifeddiaeth gwerth tri chant o bunau yn y flwyddyn, yr hyn oedd swm gwych iawn yn yr oes hono. Oherwydd ei uchel waed, a'i amgylchiadau cyfrifol, cafodd amryw swyddau gwladwriaethol pwysig. Penodwyd ef gan Harri VIII. yn isystafellydd a barwn canghenllys Gwynedd. Bu yn sirydd Meirion yn 1546 a 1555, ac yn aelod dros y sir hono yn seneddau 1547, 1552, 1554. Llofruddiwyd y Barwn Owen gan y 'Gwylliaid Cochion Mawddwy" yn Mawddwy, mewn lle a elwir hyd heddyw "Llidiard y Barwn,' ar yr 11eg o Hydref, 1555.—Pennant's Tours in Wales; Lewis Dunn's Heraldic Visitations; Wms. Em. Welsh.)

OWENS, Parch. OWEN, Rhosycae, a anwyd yn Maesynghared, tyddyn bychan, ger Dolgellau, yn nghantref Meirionydd, Awst 21, 1792. Cafodd ysgol pan yn ieuanc. Yn Mai 23, 1811, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod gan yr Annibynwyr yn Nolgellau. Yn 1817 priododd weddw ieuanc barchus o Ddolgellau, o'r enw Ann Jones. Wedi hyny aeth i Ddinas Mawddwy i gadw ysgol, ac yno y dechreuodd bregethu. Yn Mai 23, 1821, symudodd iRosycae, ac ar y 30ain o Hydref canlynol urddwyd ef yn weinidog ar eglwys Annibynol y lle hwnw. Yr oedd ei gof yn hynod gryf, ac yr oedd yn hynod o benderfynol dros yr hyn a ystyriai yn iawn. Er na fu erioed mewn athrofa, ac na chafodd lawer o ysgol gyffredin, eto yr oedd yn alluog i bregethu yn Saesneg, pan elwid am hyny. Yr oedd yn bregethwr sywleddol a buddiol