wr, gan ymgyflwyno i'r gwaith o bregethu yr efengyl ymhlith ei gydwladwyr tywyll a thylodion. Yr oedd yn ddyn galluog, efengylaidd, llafurus, a charedig, ac elusengar. Bu farw yn 1699, yn 62 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Llanegryn.——(Noncon. in Wales; Cambro—British Bio.; Wms. Em. Welsh.; Traethodydd am 1852, 290; Traethodydd, 1868, 295.) Ynglŷn â'r uchod, y mae un arall o'r un teulu nas gallwn fyned heibio iddo heb ei grybwyll—" Yr Hen Dr. Owen."
OWEN, JOHN, D.D., "yr hen Ddoctor Owen," y "Puritan cawraidd," a "Thywysog y Duwinyddion," (chwedl Cynhafal.) Er nad oedd yn enedigol o swydd Feirion, ond os hawliwn ni ef fel Cymro, ymha le y rhoddwn ef ond ymhlith "Enwogion Swydd Feirion!" Yr oedd y duwinydd ardderchog hwn yn fab i'r Parch. Henry Owen, yr hwn oedd drydydd mab i Griffith Owen, Ysw., o Dalybont, ger Towyn, Meirionydd. Addysgwyd ei dad yn Rhydychain, a chafodd ar y cyntaf ficeriaeth Stadham, ger Watlington, swydd Rhydychain, lle y ganwyd John yn 1616. Yr oedd Dr. Owen, yn orwyr i'r Barwn Owen, o'r Llwyn, ger Dolgellau, ac yn ewythr i Hugh Owen, o Fronyclydwr, cyfyrder ei dad. Nid ydym yn credu i un wlad, mewn un oes, fagu rhagorach duwinydd na Dr. Owen. Yn 1632, graddiwyd ef yn B.A.; yn 1635, yn M.A., yn Rhydychain. Yn 1637, gadawodd Rydychain, a mabwysiadodd Ymneillduaeth. Yn 1653, cafodd y radd o D.D., a bu am ysbaid yn llywydd y Brifysgol, Rhydychain. Y mae bron yn wyrth fod gwr fel efe wedi medru cael hamdden i gyfansoddi cymaint, pan yr oedd cynifer o bethau eraill yn galw am ei sylw. Yr oedd ei holl lyfrau yn cynwys dim llai na saith cyfrol deublyg, ugain mewn pedwar plyg, a thua haner cant mewn wythplyg, a dyddiad eu cyhoeddiad yn cyraedd o 1642 hyd 1760. Cyhoeddwyd un gyfrol ar ddeg o honynt ar ol ei farwolaeth. Y mwyaf o'i lyfrau ydyw ei Esboniad ar yr Epistol at yr Hebreaid, yr hwn a ddaeth allan mewn pedair cyfrol fawr bedwar plyg, y gyntaf yn 1668, a'r olaf yn 1684. Ni welsom yr argraffiad diweddaf o weithiau Dr. Owen, a ddaeth allan gan y Clarkes, o Edinburgh; ond gwelsom yr argraffiad a ddaeth allan yn 1850, gan Johnstone a Hunter, yn cynwys y cyfrolau canlynol:—Vol. d, "On Christ."—2, "On the Trinity.'" —3, "On the Holy Spirit."—4, "On the Holy Spirit."—5, "On