Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

duwioldeb personol, a wnaent ei goffadwriaeth yn anwyl gan y sawl a freintiwyd â chydnabyddiaeth âg ef, ac a drosglwydda ei enw i'r dyfodiant fel addurn y wlad a'i magodd, ac anrhydedd i'r hil ddynol yn gyffredinol.—(Wms. Em. Welsh.; Hanes y Cymry, gan y Parch. Owen Jones.) Rhestr o'i weithiau awdurol:—1, "Harmonia Trigonometrica, or a short Treatise on Trigonometry," 1748· —2, "Observations on the Scripture Miracles," 1755.—3, "Observations on the four Gospels," 1764.—4, "Directions to Young Students in Divinity," 1766.—5, "Enquiry into the state of the Septuagint Version," 1769.—6, "The Intent and Propriety of the Scripture Miracles considered and explained, in a series of Sermons preached in the parish church of St. Mary—le—bow," 2 Vol. Boyle's Lecture, 1773.—7, "Critica Sacra, or a short introduction to Hebrew Criticism," 1774.—8. Golygu argraffiad o lyfr Genesis allan o'r ysgrifau Cottonaidd a chyfysgrif y Vatican, 1778.—9, Cyhoeddi "Memorabilia" Zenophon, 1785.—10, "Critical Disquisition," sef sylwadau ar argraffiad Masius o Lyfr Josuah.—11, "Critical Disquisitions," sef sylwadau ar waith enwog Origen—Hexapla.—12, "A Brief Account, Historical, and Critical, of the Septuagint Version of the Old Testament," 1797.—13, "The words of Quotation used by Evangelical Writers explained and vindicated." Bu o fawr gymorth yn nghyhoeddiad amrywiol lyfrau dysgedig a thra gwerthfawr eraill. Efe a ysgrifenodd hanes cyflwyniad y Deml, y sydd i'w weled yn Origin of Printing, gan Bowyer a Nichol. Golygodd a chyhoeddodd yr ail—argraffiad hefyd o "Mona Aintiqua," 1776.

OWEN, Parch. HUGH, o Fronylcydwr, ymneillduwr enwog yn yr 17eg ganrif, a anwyd yn Mronylcydwr, plwyf Llanegryn, yn nghantref Meirionydd, yn 1637. Yr oedd ei dad yn byw ar ei dir ei hun,—Humphrey Owen, ac yn hanu o hen deulu parchus―yn fab i John Owen, yr hwn oedd yn ail fab i John Lewis Owen, o'r Llwyn, A.S. dros Feirion, ac yntau yn fab hynaf i Lewis Owen, is—ystafellydd Gwynedd, yr hwn a lofruddiwyd yn 1555, gan Wylliaid Cochion Mawddwy. Addysgwyd ef yn Rhydychain, ac yr oedd yn ymgeisydd am urddau eglwysig pan wnaed deddf seneddol Bartholomew, a thua'r amser hwnw symudodd yntau o Rydychain i Lundain. Dychwelodd yn fuan i'w wlad enedigol, lle y trigianodd o hyny allan ar ei etifeddiaeth fechan Bronyclyd-