Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lladdwyd ef gan Gerald de Windsor, yn 1114.—(Brut y Tywysogion.)

OWAIN AB GWILYM, Syr, o Dalyllyn, bardd ac offeiriad yn ei flodeu rhwng 1530 a 1570. Y mae peth o'i farddoniaeth ar gael mewn llawysgrifau.

OWAIN GWYNEDD, bardd gorchestol, yn ei flodeu rhwng 1540 a 1590. Dywedir mai ei enw priodol oedd Owen Evans. Cafodd radd pencerdd gan Simwnt Fychan yn ail Eisteddfod Caerwys yn 1568. Dywedir fod Owain Gwynedd yn gydoeswr â W. Lleyn, a bod ymryson barddonol wedi bod rhyngddynt. Y mae cywydd o'i waith yn Ngorchestion Beirdd Cymru, ac y mae saith cywydd eraill ar gael mewn llawysgrifau. Nis gellir casglu oddiwrth y rhai hyny ei fod, fel y dywed rhai, yn fardd i Lewis Owen, y barwn, o'r Llwyn, ond ei fod yn gyfaill cydstad â'r teulu mewn urddas.—(Geir. Byw., Lerpwl, Geir. Byw., Aberdâr.)

OWEN, Parch. HENRY, M.D., duwinydd dysgedig, a hanai o hen deulu parchus, ac a anwyd yn Tanygadair, ger Dolgellau, yn nghantref Meirionydd, yn 1716. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadegol enwog Rhuthyn; a phan yn 19 oed, cafodd dderbyniad i Goleg yr Iesu, Rhydychain. Ei hoff efrydiaeth yno ydoedd mesuroniaeth. Wedi ei raddio yn y celfyddydau, trodd ei sylw at physigwriaeth, a gwnaed ef yn wyryf yn y gangen hono (M.B.) yn 1746. Bu yn'ymarfer fel meddyg am dair blynedd, pryd y gorfodwyd ef oherwydd blino ar y gwaith ac afiechyd i roddi y broffes hono i fynu, ac o hyny allan cyfeiriodd ei sylw yn hollol at yr offeiriadaeth. Ni wyddys pa bryd yr urddwyd ef, ond dywedir ei fod pan yn ieuanc wedi ei benodi yn gaplan i Syr Mathew Featherstonehaugh, yr hwn a roddes iddo fywoliaeth Torling, yn Essex. Yn 1750, rhoddes Torling i fyny, a chafodd rectoriaeth St. Olave, Hart Street, Llundain. Yn fuan, penodwyd ef yn gaplan i Esgob Llandaf, wedi hyny esgob Durham. Yn 1753, graddiwyd ef yn M.D., yn Rhydychain. Yn 1760, priododd ferch Dr. Butts, yr hwn a fuasai yn esgob Norwich, ac wedi hyny yn esgob Ely. Yn 1775, cafodd ficeriaeth Edmonton, Sir Middlesex, gan esgob Barington. Bu farw Hydref 15, 1795, yn 80 oel. Gadawodd Dr. Owen o'i ol brofion diymwad o ddysgeidiaeth ddofn, talentau beirniadol ysblenydd, zel yn achos llenyddiaeth gysegredig ac amddiffyniaeth dwyfol ddatguddiad, ynghyda rhinweddau a