Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn erbyn Gwyddelod, y rhai a oresgynasant wlad Gwynedd, ac wedi eu llwyr yinlid ymaith cafodd Meirion, yn hawl ei dad, y cantref a adwaenir wrth yr enw Cantref Meirionydd, yn swydd Feirion.

MORRIS, Parch. LEWIS, gweinidog yr efengyl gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn agos i Dowyn, yn nghantref Meirionydd. Ganwyd ef yn 1870. Rhyw Saul o erlidiwr oedd Mr. Morris hyd nes oedd yn 29 oed; ond cafodd dro rhyfedd mewn lle rhyfedd— rhedegfa geffylau, yn Machynlleth. Cyn hyn ei orchestwaith oedd erlid yr Ymneillduwyr. Bu mewn helynt ofnadwy ynghylch ei gyflwr; bu am ysbaid yn syllu yn anobeithiol ar y ddeddf wrth odre mynydd Sinai. Aeth i wrandaw ar y Parch. Mr. Williams, o Ledrod, yn pregethu yn Abermaw, ac arweiniodd hwnw ef tua Chalfaria, lle y gwelodd yntau wawr ar ei achos er mor ddrwg oedd ; ac yn Abermaw yr ymunodd Lewis Morris â chrefydd. Ymhen dwy flynedd dechreuodd bregethu. Erbyn hyn yr oedd yntau ei hunan wedi dyfod, fel Paul yr apostol, yn wrthddrych erledigaeth-i ffoi o'r naill fan i'r llall o flaen milwyr, &c. Nid yw y defnyddiau sydd ger ein bron yn rhoddi dim goleuni ar gymeriad pregethwrol Lewis Morris, ac nid ydym ninau yn ei gofio yn ddigon da fel ag i wneyd sylwadau arno. Bu farw Mawrth, 12, 1855, yn 95 oed, wedi pregethu am 64 o flynyddoedd.

OWAIN AB CADWGAN AB BLEDDYN, o'r Nannau, a thywysog Powys, a dreuliodd fore ei oes mewn afradlonedd, trythyllwch, a gwrthryfel. Pan roddai ei dad wledd i'w benaethiaid yn Aberteifi, yn ystod gwyliau y Nadolig 1107, soniai un o'r gwahoddedigion am degwch personol Nest, merch i Rhys ab Tewdwr, a gwraig Gerald de Windsor, cwnstabl castell Penfro, ac enynwyd trachwant Owain tuag ati. Ymwelodd â Phenfro; a thrwy ei berthynas â'r teulu cafodd dderbyniad croesawgar, ac ad-dalodd yntau y caredigrwydd trwy roddi y castell ar dân, dwyn Nest ymaith, a bu agos i Gerald golli ei fywyd yn y dinystr. Parodd y weithred anfad hon ofidiau chwerwon i'w dad, a bu raid iddo, er osgoi dialedd y Saeson, ffoi i'r Iwerddon. Pa fodd bynag, cafwyd heddwch ymhen ysbaid, a dychwelodd y tad a'r mab yn ol i'w gwlad. Yn 1110 Owain a olynodd ei dad fel Tywysog Powys, a chafodd ar ol hyny dderbyniad i ffafr Harri I., gyda'r hwn yr aeth i Normandi, lle y gwnaed ef yn farchog ganddo.