Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Annibynol Llwyngwril, yn nghantref Meirionydd. Yr oedd eglwysi Towyn a Llanegryn hefyd dan ei ofal. "Credai y Gwirionedd, teimlai y Gwirionedd, ac yr oedd holl rediad cyffredin ei fywyd yn cyd-ddwyn tystiolaeth i'r Gwirionedd. Fel pregethwr nis gellir ei resu ymysg y dosbarth blaenaf fel pregethwr i'r cyhoedd; ail radd oedd ei ddoniau a'i dalentau; ond fel pregethwr i'r un gynulleidfa yr oedd ynddo ragoriaethau. Yr oedd ganddo yn wastad bregeth dda, bwrpasol, wedi ei hastudio yn fanwl." Bu yn hynod lafurus hefyd gydag adeiladu capelau, a'r gwahanol gymdeithasau, &c. Bu farw Medi 25, 1861 yn 71 oed, wedi bod yn Towyn Meirionydd 45 o flynyddoedd.

LLWYD, LLEUCU, Pennal, yn nghantref Meirionydd, rhian nodedig am ei thegwch, yn ystod y 14eg ganrif. Yn groes i ewyllys ei rhiant enillwyd ei serch gan Llewelyn Goch ab Meurig Hen, o Nannau, Hi a aeth i ymdaith ar ddamwain i'r Deheubarth. Ei thad, er mwyn diddymu ei serch oddiarno, a hysbysodd Lleucu un diwrnod fod Llewelyn wedi ymbriodi â morwynig arall; eithr cafodd y newydd y fath effaith arni fel y syrthiodd i lawr, ac y bu farw yn yr awr hono. Pan ddychwelodd ei hanwylyd, a chlywed yr hanes galaethlawn, efe a gyfansoddodd farwnad nad oes mo'i bath yn yr iaith am angerddoldeb teimlad. Y mae i'w gweled yn argraffedig yn y Brython, cyf. ii. 170; a cheir cyfieithiad o honi yn y Bardic Museum, gan Jones. (Geir. Byw., Lerpwl.) Rhaid i ni addef fod mwy o hynodrwydd yn perthyn i hanes person fel yr uchod yn hytrach nag enwogrwydd. Nid yw pob hynodrwydd yn enwogrwydd.

LLEWELYN GOCH AB MEURIG HEN, bardd enwog a drigianai yn Nannau, Llanfachreth, yn nghantref Meirionydd, ac yn ei flodau rhwng 1330 a 1370. Enillodd serch Lleucu Llwyd, rhian nodedig am ei phrydferthwch, o Bennal, ac ar ei marwolaeth disyfyd cyfansoddodd farwnad alaethlawn, yr hon a argraffwyd yn y Brython ii. 170, a chyfieithiad o honi yn y Bardic Museum gan Jones. Y mae llawer ychwaneg o'i farddoniaeth ar gael, a chwe' dernyn yn argraffedig yn y Myv. Arch. Canwyd ei farwnad ef gan Iolo Goch.-(Geir. Byw., Lerpwl.)

MEIRION, penaeth yn y bumed ganrif. Mab ydoedd i Tybiawn ab Cunedda. Lladdwyd ei dad tra yn brwydro gyda'i frodyr