Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

JONES, RHYS, o'r Blaenau, ydoedd fab ac etifedd John Jones, Ysw., o'r Blaenau, plwyf Llanfachreth, yn nghantref Meirionydd. Ganwyd ef yn 1713. Ei fam oedd Sioned, merch Huw Puw, Ysw., Garthmaelan, Dolgellau. Bwriad y rhieni oedd dwyn Rhys i fyny yn gyfreithiwr. Aeth i ysgol Dolgellau, oddiyno i'r Amwythig; ond tra yr oedd yn Amwythig bu farw ei dad, a dychwelodd yntau adref, ac yno y treuliodd ei oes faith, yn rhyddfeddianwr diardreth. Dywedir ei fod yn ŵr o synwyr cyffredin cryf anarferol, a chyrchai y cymydogion ato i ymgynghori ar bynciau dyrus, a byddai ei farn yn gyffredin yn benderfyniad. Yr oedd Rhys hefyd yn fardd gwych. Ond dywedir iddo ymenwogi yn fwy fel detholydd nag fel bardd, er iddo gyfansoddi ei hun rai pethau galluog. Yn 1770 cyhoeddodd “Pigiadau dewisol o waith prydyddion o'r amrywiol oesau." Yn 1773 cyhoeddodd "Gorchestion Beirdd Cymru." Wedi marwolaeth y bardd cyhoeddwyd cyfrol o'i ganiadau gan ei wyr, Rice Jones, Owen, Ysw., a chynwysa hwnw rai darnau moesol a galluog ond nid yw y rhai moesol yn alluog, na'r rhai galluog yn foesol. Bu farw Chwefror 14, 1801, yn 86 oed, a chladdwyd ef yn Eglwys Llanfachreth.

JONES, Parch. RICE, ydoedd fab i'r enwog Rhys Jones, o'r Blaenau, yn nghantref Meirionydd. Ganwyd ef yn 1755. Pa ddysgeidiaeth a gafodd yn more ei oes nid yw yn hysbys, ond gwyddys iddo efrydu yn benaf ar gyfer yr Eglwys Sefydledig, ac iddo gael lle i weinyddu y swydd o offeiriad yn Llanystumdwy, Sir Gaernarfon. Bu farw Mawrth 14, 1790, yn 35 oed, a chladdwyd ef yn mynwent blwyfol yr Eglwys grybwylledig, lle y mae gwyddfaen yn dangos ei fedd, ac arysgrifen ei goffadwriaeth arno, ynghyda'r englyn canlynol o waith ei dad, yn coffhau ei aml rinweddau:

"Pregethwr, awdwr ydoedd—hoff urddas,
Hyfforddiant i filoedd ;
Athraw odiaeth weithredoedd,
A geiriau mel angel oedd."


LLOYD, Parch. HUGH, Towyn Meirionydd, gweinidog gyda'r Annibynwyr. Ganwyd ef yn Bryngoleu, ger y Bala, yn 1790. Cafodd ysgol pan yn blentyn. Dechreuodd bregethu yn Penystryd, Trawsfynydd. Bu am ryw ysbaid yn y Groeslon, Môn, lle y cadwai ysgol. Yn 1816 derbyniodd alwad eglwys