Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddawn neillduol i ddychymygu a gweithio ceryg yn gistiau ar feddau, cistiau mewn tai, a chimmney pieces, ynghyda lliaws o bethau tra chywrain o'i waith a welir yn Nghymru a Lloegr, yr hyn a enillai sylw a ffafr perchenog y gwaith i raddau mawr. Yr oedd yn hynod o ran ei alluoedd i ddysgu unrhyw beth a feddyliai am dano." Bu farw Ionawr 27, 1840, trwy i ddarn o graig syrthio arno yn nghloddfa llechi Aberllefeny. Gadawodd. wraig a phump o blant i alaru ar ei ol.

JONES, Parch. OWEN, Towyn, yn nghantref Meirionydd. Ganwyd ef Chwefror 17, 1787. Mab ydoedd i John a Ellinor Owen, Towyn Meirionydd. Anfonwyd ef i'r ysgol yn bur ieuanc, ac ymddengys iddo wneyd defnydd da o honi. Meddai gof hynod o gryf i gofio pob peth a ddarllenai, a'r testynau a'r pregethau a glywai. Anfonwyd ef i Aberystwyth i ddysgu y gelfyddyd o gyfrwywr, lle y bu yn hynod o ymdrechgar yn sefydlu ysgolion Sabbothol, a chasglai hwy at eu gilydd ar nosweithiau yr wythnos i'w holi a'u hegwyddori; a dywedir iddo wneyd llawer o ddaioni yn yr ystyr yma. Yn 1805 aeth i Lanidloes, sir Drefaldwyn, i weithio ei gelfyddyd. Ni bu yma ond amser byr; aeth i gynorthwyo y Dr. W. O. Pugh i olygu yr argraffwasg yn yr argraffiad cyntaf o'r Bibl Cymraeg, gan y Gymdeithas Fiblaidd Frytanaidd a Thramor. Yr oedd yn hynod o lafurus gydag ysgolion Sabbothol Cymreig y Trefnyddion Calfinaidd tra yn Llundain. Yn 1807 aeth i Amwythig i weithio ei gelfyddyd. Tua'r flwyddyn 1808 dychwelodd i Dowyn Meirionydd, i gadw masnach. Yn fuan wedi hyn dechreuodd bregethu, ac yn yr un flwyddyn priododd Mary Jones, unig ferch John Jones, Gelli, yn mhlwyf Llanfaircaereinion, yr hon oedd yn berchen y lle hwnw. Yn 1809 sefydlodd ei gartref yn y Gelli, lle y bu hyd ei farwolaeth. Yn Nghymdeithasfa y Bala, yn 1819, ordeiniwyd efi gyflawn waith y weinidogaeth. "Yr oedd yn bregethwr o ddawn serchog a bywiog iawn. Gwnaeth lawer o ddaioni yn ei ddydd trwy gadw a sefydlu ysgolion Sabbothol a nosawl, a phregethu. Pregethai lawer yn Saesneg, gan y byddai yn llafurio gan mwyaf ymhlith Saeson y Goror. Bu hefyd yn hynod ymdrechgar o blaid y Fibl Gymdeithas, ac achosion da eraill, Dywedir fod ganddo ddawn a medr neillduol i ddylanwadu ar y bobl i gael ganddynt gyfranu at y gwahanol achosion hyn. Bu farw Rhagfyr 3, 1828, yn 41 oed.