Parch. John Jones," ei hen athraw yn Merton, 3. Erthyglau galluog ar "Iawnderau Ymneillduaeth" a ymddangosodd yn y Shrewsbury Chronicle. 4. "Cathlau Blinder," caneuon a gyfansoddodd ar ol marw ei briod a'i blentyn, a ymddangosodd yn yr Adolygydd ii. 393. 5. Traethawd, "The moral obligation of total abstinence," a enillodd ddeg punt yn Eisteddfod Llundain. 6. Traethawd, "Dissent and Morality in Wales," amddiffyniad gwir alluog ydyw hwn yn erbyn sarhad y Llyfrau Gleision, ac、 anfonwyd cyflyfr o hono i bob un o aelodau seneddol Prydain Fawr. 7. Golygu papyr newydd yn Caerdydd, Principality. 8. Golygu Standard of Freedom yn Llundain. 9. Dwyn y Gymraes allan, cyhoeddiad misol at wasanaeth merched ei wlad. 10. Cyhoeddiad misol arall o'r enw Tywysog. 11. Golygu cyhoeddiad trimisol o'r enw Adolygydd. 12. Pryddest ar Adgyfodiad Crist," buddugol yn Eisteddfod Merthyr. 13. Pryddest ar "Olygfa Moses oddiar ben Pisgah," buddugol yn Eisteddfod Lerpwl. 14. Pryddest ar yr Adgyfodiad," testyn Eisteddfod Rhuddlan. 15. Awdl ar 'Heddwch," testyn Eisteddfod Porthmadog, yr hon oedd yn ail i awdl G. Hiraethog, " y rhai ydynt yn ymhlith y darnau tlysaf a mwyaf awenyddol yn yr iaith." Ond nid yw hyn y ddegfed ran o'r hyn a gyfansoddodd ac a enillodd o wobrwyon tra yn y cyflwr dihafal hwn o waeledd a nychdod. Yr pedd canu awdlau a phryddestau gorchestol i'n Histeddfodau, cyfranu rhagerthyglau i newyddiaduron, golygu cyhoeddiadau misol a chwarterol, darllen llyfrau a beirniadu, casglu ystadegau i aelodau seneddol, a chynal i fyny lawer o ohebiaethau yn orchest dan yr amgylchiadau goreu. Ond yr oedd eu cyflawni gan ddyn ar wastad ei gefn yn ei wely, a'i ewinedd yn las gan y darfodedigaeth, a'i beswch yn drwm, a'i ystlysau yn ddolurus, a'i holl gorff yn adfail, yn nesaf peth i wyrth.
JONES, Parch. MORRIS, Aberllefeny, yn nghantref Meirionydd, ydoedd weinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef yn Mhenmorfa, swydd Gaernarfon, Ionawr 13, 1806. Yn Awst 1836 dechreuodd bregethu, a dywedir ei fod yn bregethwr hynod o effeithiol; iddo fod, yn ei amser byr, yn offerynol i droi lliaws o gyfeiliorni eu ffyrdd. Yr oedd wedi dysgu darllen, ysgrifenu, a gramadegu, &c., heb ddiwrnod o ysgol, oddieithr y Sabbothol. Yr oedd yn enwog hefyd fel celfyddydwr; " meddai ar