Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydd am y weinidogaeth. Yr oedd yn bregethwr doniol a phoblogaidd. Yr oedd rhyw swyn anghyffredin yn ei bregethau. Byddai ei faterion yn wastad yn darawiadol; ei agwedd yn syml a phrydferth; a'i lais yn fwyn, melus, a thoddedig. Anfynych y pregethai heb fod ei wrandawyr mewn dagrau; ac yr oedd arddeliad hynod ar ei weinidogaeth. Bu yn offeryn i droi llawer at yr Arglwydd. Nid oedd ei gyfansoddiad ond gwanaidd, ac yn fuan efe a ddechreuodd lesgâu. Cafodd gystudd maith a blin, ond mwynhaodd dangnefedd heddychol hyd y diwedd. Hunodd yn yr Iesu, Gorph. 19eg, 1849, yn 31 mlwydd oed, wedi bod 9 mlynedd yn y weinidogaeth. Y mae ei enw eto fel perarogl mewn llawer ardal.

JONES, Parch. EVAN, neu Ieuan Gwynedd, gweinidog yr Annibynwyr yn Nhredegar, a bardd a llenor, un o'r rhai enwocaf fagodd Cymru. Ganwyd ef Medi 20fed, 1820, yn Bryn Tynoriad, ger Dolgellau, yn nghantref Meirionydd. Pan oedd yn bur ieuanc, symudodd ei rieni i'r Tŷ Croes, ger Dolgellau. Yr oedd yn llawn o ysbryd darllengar er yn blentyn; yr oedd wedi darllen cryn lawer o lyfrau, a hyny i bwrpas, cyn bod yn naw oed, fel y dywed ef ei hun yn nghofiant ei fam. Aeth oddicartref y waith gyntaf i gadw ysgol i Sardis, Sir Drefaldwyn. Ac yma y dechreuodd bregethu; ac wedi bod yma am ysbaid, aeth i Fangor, yn athraw cynorthwyol i'r Parch. Arthur Jones, D.D., ar un o ysgolion Daniel Williams, D.D. Yn 1839, aeth i ysgol Merton, Swydd Amwythig, i ymbarotoi i fyned i'r coleg. Yn 1841, aeth i Athrofa Aberhonddu, lle y bu am 4 blynedd. Erbyn hyn, yr oedd ei enw yn hysbys trwy y Dywysogaeth fel un o'i phrif lenorion, trwy y gwobrau a enillasai mewn barddoniaeth a rhyddiaeth. Yn 1845, urddwyd ef yn weinidog yn Saron, Tredegar. Yn y flwyddyn hon y priododd ferch Rorington Hall, yn agos i Merton; yn y flwyddyn ganlynol cawsant fab, a bu y mab a'r fam farw. Yn 1848, priododd eilwaith Miss Lewis, merch i hen weinidog Tredwstan, Sir Frycheiniog. Dyn gwanaidd a gwael ei iechyd oedd Mr. Jones, er hyny gwnaeth lawer o waith mewn amser mor fyr. "Yr oedd ar lawer ystyriaeth yn un o'r dynion hynotaf a welodd Cymru, yn yr hwn yr oedd yr egni a'r ymroad mwyaf wedi cydgyfarfod â thalentau ysblenydd." Bu farw Chwef. 23ain, 1852, cyn bod yn 32 mlwydd oed. Bellach rhoddwn grynodeb byr o'i lafur llenyddol :—1."Cofiant ei Fam." 2. "Cofiant i'r