Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

JONES, Parch. RICHARD, Llwyngwril, pregethwr hynod yn ei ddydd. Ganwyd ef yn nhyddyndy y Tŷ du, plwyf Llwyngwril, Meirion, yn 1780. Yr hyn oedd enwocaf yn Mr. Jones oedd côf cryf anghyffredin; gallai ail adrodd pregeth neu ddarlith a glywai o'r naill ben i'r llall, ac nid oedd raid iddo ddarllen llyfr fwy nag unwaith, yr oedd y Beibl gan mwyaf yn ei gof. Yr oedd yn dduwinydd da, ac yn llawn syched hyd ei ddiwedd am ychwaneg o wybodaeth yn ei hoff bynciau. Bu farw Chwefror 18, 1853, yn 73 oed. Cyhoeddwyd cofiant iddo gan y Parch. E. Evans, Llangollen; ond nid yw y cofiant hwnw yn llawer o glod i'r Parch. Richard Jones, nac i'w awdwr ychwaith. Pregethwr gyda'r Annibynwyr oedd Mr. Jones, a phregethwr teithiol a fu dros ei holl fywyd; pan y deuai adref o un daith, dechreuai barotoi i gychwyn taith arall. Nid ydym yn gwybod iddo erioed fod yn fugail un eglwys neillduol.

JONES, Parch. CADWALADR, gweinidog yr Annibynwyr, yn Nolgellau, cantref Meirionydd. Ganwyd ef yn Deildref—isaf Llanuwchlyn, ger y Bala, yn nghantref Penllyn, Mai 1783. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol yn y lle gan y Dr. G. Lewis. Anogwyd ef yn fuan i ddechreu pregethu. Anfonwyd ef i'r athrofa yn Ngwrecsam, dan ofal y Parch. Jenkin Lewis. Yn Mai, 1811, urddwyd ef yn Nolgellau. Yn 1858, o herwydd cynydd oedran, rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny yn gwbl, a phregethai yma a thraw, fel y byddai galwad ymysg ei hen ddiadellau, hyd angau, lle yr edrychid arno gydag anrhydedd patriarchaidd. Bu yn olygydd i'r Dysgedydd am 30 mlynedd, yr hon a gychwynwyd yn 1821. Bu yn y weinidogaeth am 60 mlynedd, ac ni fethodd un cyhoeddiad o herwydd afiechyd. Yr oedd ei bregethau yn ysgrythyrol, ymarferol, ac eglur. Yr oedd yn dduwinydd galluog, ac yn eiddigeddus dros iachusrwydd ffydd. Yr oedd yn Anghydffurfiwr trwyadl, a gweithredai bob amser fel y cyfryw. Bu farw Rhagfyr 5ed, 1867, a chladdwyd ef yn mynwent y Brithdir.(Geir. Byw. Aberdar.)

JONES, Parch. THOMAS, y 3ydd, oedd weinidog ieuanc gyda'r Wesleyaid. Ganwyd ef yn Pennal, cantref Meirionydd Ymunodd â'r Gymdeithas Wesleyaidd yn moreu ei oes; a phan oddeutu 17 oed, efe a ddechreuodd bregethu. Wedi treulio rhai blynyddau fel pregethwr cynorthwyol, derbyniwyd ef fel ymgeis