Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Feirion. Bu ei dad farw pan oedd ef yn flwydd oed. Pan oedd tua deuddeg oed aeth at ei ewythr frawd ei dad, a bu yno nes y gorfu ymadael, o achos iddo fyned i broffesu crefydd. Ni chafodd ddim manteision crefyddol pan yn ieuanc. Nid oedd Ysgol Sabbothol yn ei ardal eto, na phregethu yr efengyl. Pan yn un ar hugain oed daeth Sion Robert Lewis, o Gaergybi, i bregethu i'r gymydogaeth, a chafodd y bregeth gryn ddylanwad ar feddwl R. Dafydd. Tua'r un amser daeth Robert Jones, Rhoslan, i'r ardal, i gadw ysgol, a byddai Robert yn arferol o fyned i wrando arno yn egwyddori y plant, a byddai hyn yn rhoddi boddhad mawr iddo. Cyn hir cafodd ei lwyr argyhoeddi o'i gyflwr damniol, a gwnaeth hyn gyfnewidiad mawr ar R. Dafydd yn ei ddull o fyw; a dechreuodd pobl yr ardal felldithio R. Jones am yru Robert Dafydd o'i gof. Bellach dechreua deithio, weithiau mor bell â Llangeitho, i glywed pregethu. Yn y teithiau hyn bu yn dianc lawer gwaith a'i fywyd yn ysglyfaeth ganddo; oblegid byddai yn cael ei erlid yn ofnadwy yn Tanybwch, Penrhyndeudraeth, a Dolgellau, &c. Fel pregethwr ei hun nid oedd Robert Dafydd yn cael ei ystyried yn bregethwr mawr. Nid oedd yn hoff o drin pynciau athrawiaethol crefydd; crefydd brofiadol, &c., oedd ei hoff bynciau ef. Yr oedd yn fwy enwog fel gweddiwr nag oedd fel pregethwr; byddai yn llawer enwocach yn y gyfeillach eglwysig nag yn yr odfa. Bu yn hynod ddiwyd yn ngwasanaeth ei Arglwydd am oes faith, a bu farw mewn oedran teg Ebrill 18ſed, 1834.

DAI LLWYD, oedd un o Lwydiaid Cwmbychan, Ardudwy. Yr oedd yn bur enwog fel milwr dewr. Dywedir mai iddo ef y cyfarchwyd y dôn Gymreig a elwir "Ffarwel Dai Llwyd," ar yr achlysur o'i fyned gyda Jasper Tudor ac Owen Lawgoch i ym ladd yn erbyn Richard III. (Pennant's Tours.)


EDWARDS, ROBERT, (alias Robyn Ddu o Feirion) ydoedd fardd a llenor, a hynafiaethydd gwych o Drawsfynydd. Y mae o'i waith yn Nghorff y Gainc "Gywydd Marwnad i Rolant Huw o'r Graienyn," ger y Bala, ac "Englyn Cyffes y Bardd." Y mae yn yr un llyfr englynion er cof am dano gan Gwilym Peris. Yr oedd yn fab neu wyr i Edward Roberts, alias "Hen Ficer Crawgallt." Yr hyn a ganlyn sydd uwch ei fedd:—" Yma y gorwedd gorff Robert Edward, bardd celfydd, olrheiniwr dyfal, a chyfaill dianwadal,