Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynt o Bentref Trawsfynydd. Diweddodd ei daith helbulus Y mae ar у beddfaen Chwefror у 18fed dydd, 1805, yn 30 oed." hefyd ddeg o englynion o waith Griffith Williams (Gutyn Peris), ac eraill. Buasem yn eu rhoddi i lawr yma pe buasai gofod yn caniatau. Hefyd, y mae mewn hen lyfr yn ein meddiant bum' englyn coffadwriaethol eraill o waith Gutyn Peris, er cof am Robyn Ddu o Feirion, &c. A gallwn dybied wrth dystiolaeth y beirdd fod Robyn Ddu o Feirion yn seren ddisglaer iawn.

EDWARDS, LEWIS, alias "Llewelyn Twrog," ydoedd fardd a llenor, ac yn un o rai mwyaf gobeithiol ei oes pe cawsai fyw. Ganwyd ef Gorphenaf 2, 1832, a bu farw Tachwedd 8fed yn y flwyddyn 1861, yn 29 oed. Efe oedd yr hynaf o chwech o blant; ei rieni oeddynt Dr. E. Edwards, ac Elilabeth ei wraig, o Faentwrog. Yr oedd yn ysgrifenydd rhyddiaethol hefyd galluog iawn. Y mae y deuddeg llythyr a ysgrifenodd at y Parch Robert Ellis (Cynddelw), a ymddangosodd yn yr Herald Cymraeg, o dan y ffugeuw "Trefor Wynn," yn profi yn eglur mai nid un i gellwair ag ef ydoedd. Hefyd, mae yn y Bedyddiwr am y flwyddyn 1864 draethawd maith a galluog o'i eiddo ar "Hunan -ddiwylliant." Mae yn meddiant ei fam yn Maentwrog liaws o lawysgrifau, yn dwyn gwahanol ffugenwau, fel y mae yn anhawdd penderfynu i ba rai yr oedd efe yn awdwr. Ond fel y bu yr anlwc disgynodd y rhan fwyaf o'i lyfrau a'i lawysgrifau i feddiant Mr. R. T. Jones, llyfr-rwymydd, Porthmadog, yr hwn a omeddodd i ni eu gweled, er cynyg talu am hyny. Dyma ychydig o lawer o'r llawysgrifau sydd yn meddiant ei fam, Mrs. Edwards, Maentwrog: -1, Y Gymraes, penillion buddugol yn Eisteddfod Manchester, Dydd Gwyl Dewi, 1856; 2, Caniad Briodasol; 3, Chwe' englyn byrfyfyr ar drafferthion y Bardd wrth ddyfod adref o Gefn-y-cymerau, ar nos Sabbath: 4, Y Plentyn Mynyddig; 5, Cywydd a gyfansoddodd y bardd yn hen balas y tywysog Ithel, Dyffryn Ardudwy, Ion. 28, 1852; 6, Y Blodeuyn arwyddol, sef myfyrdod ar farwolaeth Miss Jane Roberts, merch Mr. W. Roberts, o'r Dyffryn Ardudwy, a chwaer i R. Roberts, Ysw., meddyg, Porthmadog; 7, Cwyn -ofaint y bardd; 8, Gwyneb llon a chalon drist; 9, Galargan ar ol Mrs. Ann Owens, priod Mr. John Owen, Ty isaf, Bettws-y-coed, 1861; 10, Pa le mae hi, y fenyw deg? 11, Robin, favorite bird of heaven, &c.; 12, Pan byddwyf bell; 13,