Sut i ddewis gwraig; 14, Pryddest ar Gariad: -testyn Eisteddfod Llanfair Talhaiarn, Ionawr 1, 1855. Barnwyd hon yn oreu gan Eben Fardd. 15, Pryddestawd, o goffadwriaeth am Capt Prichard, testyn Eisteddfod Porthmadog, Llun y Pasc, 1856, am yr hon y derbyniodd yr awdwr y wobr o Dlws Arian a gini; 16, enillodd ar yr englyn i'r Hen Ferch, yn Eisteddfod Rhuthyn, Mawrth 1, 1859, pryd nad oedd dim llai na thrigain yn ymgeisio, a thyma yr englyn:—
"Adwaenir hynod anian—yr Hen Ferch,
Gwr ni fyn hi druan;
Mae'n unig a diddig dan
Arweiniad Ior ei hunan."
Y mae llawer ychwaneg yn meddiant Mrs. Edwards, a llawer ychwaneg na hyny yn meddiant R, T. Jones.
ELLIS, Parch. JOHN, D.D., ydoedd fab i Mr. Ellis o'r Glasfryn, yn Sir Feirionydd, a phrebendyr Llanfair, ger Harddlech. Ei fam ydoedd chwaer i'r Esgob Humphreys o'r Penrhyndeudraeth. Cafodd ei ddysg yn Ngholeg yr Iesu, Rhydychain, lle y cafodd y radd o D.D. Cafodd bersonoliaeth Llandwrog Medi 30, 1710. Yr oedd hefyd yn berson Llanbedr Arllechwedd yn Sir Gaernarfon, ac yn Archddiacon Meirionydd. Yr oedd yn hynafieithydd enwog, ac yn gyfaill i Syr Joseph Banks a Dr. Solander. Bu yn gynorthwy mawr i Brown Willis yn ei ym chwiliad i hynafiaethau Côr Eglwys Bangor.—(G. Lleyn ).
ELLIS, Parch. JOHN, D.D., duwinydd ac awdwr dysgedig,
a anwyd yn Llandecwyn, 1599. Aeth i Goleg Hart, Rhydychain,
yn 1617; ac yno, trwy ddyfalwch mawr mewn rhesymeg ac
athroniaeth, cyrhaeddodd y radd o M.A. yn 1625. Ymhen tair
blynedd yn mhellach, etholwyd ef yn gymrawd anrhydeddus o
Goleg yr Iesu, ac efe ar y pryd mewn urddau eglwysig. Yn 1632
derbyniwyd ef i ddarllen y brawddegau; graddiwyd ef yn D.D.,
gan Brifysgol St. Andrew, yn yr Alban, 1634, ac ar ei ddychweliad i Rydychain yn ystod yr un flwyddyn, anrhydeddwyd ef a'r
un cyffelyb deitl yno drachefn. Priododd Rebecca, merch i John
Pettie, Stoke Talmach, Sir Rhydychain, a chafodd rectoriaeth
Whitfield, yn agos i'r lle hwnw, yr hon a ddaliodd hyd 1647; a'r
pryd hwnw cafodd rectoriaeth Dolgellau, lle yr arhosodd hyd ei
farwolaeth yn 1665.
Cyhoeddwyd o'i waith. - 1, Allwedd y
Ffydd, 1642; 2, Esboniad ar Brophwydoliaeth Obadia, 1641;
3, Diffyniad i Ffydd yr Eglwys Brydeinig, 1647; 4, Hawliau