Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eglwys Loegr i ymneillduo oddiwrth Eglwys Rhufain, 1660. Y mae'r llyfrau hyn oll wedi eu hysgrifenu yn Lladin. Sefydlodd Ysgol Ramadegol yn Nolgellau yn 1665 tuag at addysgu 120 fechgyn, gan ei gwaddoli â fferm o'r enw Penbryn, yn mhlwyf Llanaber. Yr elw yn awr ydyw 40p. yn y flwyddyn. Rhaid i'r meistr, yr hwn a benodir gan offeiriad Dolgellau, fod wedi ei raddio yn Rhydychain neu Caergrawnt, ac nis gall ar yr un pryd ddal unrhyw fywioliaeth arall.—(G. Lleyn).

EVANS, Parch. EDMUND, Aberdeunant, pregethwr ffydd lawn, llafurus, a hynod o boblogaidd gyda'r Wesleyaid. Ganwyd ef yn Aberdeunant, yn mhlwyf Llandecwyn, yn Ardudwy, Gorphenaf 9fed, 1791. Pan yn bump oed anfonwyd ef i ysgol ddyddiol yn y gymydogaeth, at athraw o'r enw David Davies, a bu yno hyd nes yr oedd yn wyth oed. Y 4ydd dydd o Ragfyr, 1815, bwriodd ei goelbren i blith pobl yr Arglwydd, y rhai a ymgynullasent mewn lle o'r enw Bryn -y-bwa-bach, ger Talsarnau. Yn 1816 dewiswyd ef yn flaenor gan yr eglwys fechan hono. Am y ddwy flynedd y bu yn flaenor cyn dechreu pregethu bu yn hynod lafurus yn cadw cyfarfodydd eglwysig a chyfarfodydd gweddiau, &c.; byddai yn arfer myned ugain milltir o ffordd ar fore Sabbath i gynorthwyo cadw cyfarfod gweddio, ac weithiau fwy, ac waith arall lai. Y Sabbath cyntaf, a'r dydd cyntaf o Chwefror, 1818, y pregethodd waith gyntaf, mewn lle o'r enw Pandy, ger Talsarnau y testyn oedd Ioan iii. 14, 15, a bu yn pregethu gyda‬ dylanwad a chymeradwyaeth mawr tu hwnt i'r cyffredin, a hyny am yr ysbaid maith o saith-mlynedd -a-deugain. Bu farw Hydref 9fed, 1865, yn 73 oed. Yr oedd y Parch. Edmund Evans, fel y dywedwyd eisoes, yn hynod boblogaidd ymhob man lle yr elai, ac felly yn benaf oherwydd ei ddoniau rhwydd a naturiol. Byddai y gair cyntaf a ddywedai yn ddigon uchel ac eglur i glywedigaeth y person pellaf yn y gynulleidfa fwyaf, a'i lais yn ddigon.soniarus i foddio y glust fwyaf dichwaeth. Byddai yn werth myned ffordd bell i'w glywed yn gweddio. Nid ydym yn gwybod ond ychydig am Mr. Evans fel ysgrifenydd; ac ni wyddom ychwaith a gyhoeddodd rywbeth heblaw cyfrol o bregethau.


ELLIS, HUW, ydoedd frodor o Drawsfynydd, yn Meirion. Yr oedd yn gerddor o gryn enwogrwydd yn ei amser. (Lleyn.)


ELLIS, HUW, o Drawsfynydd, oedd chwareuydd da ar y delyn, yn enwedig o'r hen alawon Cymreig. Claddwyd ef yn