Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mynwent Eglwys Towyn, Meirionydd; ar ei fedd y mae penill Saesneg, o waith, fel y tybir, William Nanney Wynn, Ysw., Maesyneuadd.—(Lleyn.)

EVANS, Parch. DANIEL, o'r Penrhyndeudraeth. Brodor o Langower, gerllaw y Bala, oedd D. Evans. Pan yn llanc eto, heb gyraedd ei lawn dwf, canfu Mr. Charles fod ynddo ddefnydd dyn a allai fod o wasanaeth yn nheyrnasy Gwaredwr, a pherswadiodd ef i adael ei dad a'i alwedigaeth, ac ymgymeryd â chadw ysgol ddyddiol Gymreig. Gyda y gorchwyl hwn y daeth efe i'r Penrhyn. Ni bu yno yn hir heb i'r hen dadau ffyddlawn a llygadog gael eu hargyhoeddi y gallai efe wasanaethu ei Dduw yn ngweinidogaeth yr efengyl yn gystal ag wrth gadw ysgol, a chymhellasant ef i ddechreu pregethu. Symudodd wedi hyny i'r ysgol at y diweddar Barch. J. Hughes, Gwrecsam. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1831. Ymroddodd i ymboeni yn y gair a'r athrawiaeth; enillodd sefyllfa uchel a pharchus yn Nghyfarfod Misol Sir Feirionydd, fel dyn o farn ac ymddiried; ac yn y naill a'r llall o'r cylchoedd hyn yr oedd ei lafur a'i ddylanwad yn dra chymeradwy. Yn raddol iawn y pallodd ei nerth a'i iechyd. Bu farw Tachwedd 7fed, 1868, mewn henaint teg, yn 80 mlwydd oed.—(Drysorfa, 1869, t.d. 31.)


FYCHAN, GRUFFYDD, Cors-y-gedol, yn Ardudwy. Yr oedd y Gruffydd hwn mewn bri mawr gan Jasper, Iarll Penfro, yr hwn a arosodd yn ei dŷ yn Nghors-y-gedol, pan yn dianc i Ffrainc yn amser Edward IV.; a dywedir fod Harri, Iarll Richmond, wedi hyny brenin Lloegr, gydag ef. Y mae hen dŷ yn Abermaw a elwir "Tygwyn yn Bermo," a ddywedir ei adeiladu gan Gruffydd Fychan, i'r diben, meddir, o ddal cyfeillach â phenaethiaid achos Lancaster, gan ei fod yn nes at y môr na'i balas yn Nghors-y-gedol. Ei wraig oedd Lowri, nith i Owen Fychan (Owain Glyndwr.) —(Meyrick's Dwn's Heraldry.)


GRUFFYDD, HYWEL, o'r Carneddi, yn rhan o blwyf Beddgelert ag sydd yn Ardudwy a elwir Nanmor. Ganwyd ef yn 1751-2. Ei dad oedd Gruffydd Morys, ab Morys Powel y Bardd. Yr oedd tuedd i brydyddu yn Hywel Gruffydd pan yn blentyn. Ni chafodd Hywel un math o ysgol pan yn blentyn, oherwydd hyny ni byddai un amser yn ysgrifenu ei ganeuon. Yn y flwyddyn 1826, efe a gyhoeddodd lyfryn bychan, yn cynwys "Marwnad