Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Elizabeth Jones, o Hafod y Llan," "Carol Plygain," a "Chân o goffadwriaeth am ddaioni Duw yn rhoddi Cynhauaf ffrwythlawn i ni." Efe a gyfansoddodd lawer byd o ganeuon, y rhai a gopïwyd gan ei frawd Morys. Bu farw Hywel Gruffydd, ar ol treulio oes faith mewn llawer o helbulon, yn y flwyddyn 1837, a chladdwyd ef yn Beddgelert.—(Plwyf Beddgelert, gan William Jones, Porthmadog.)

GRUFFYDD, OWEN, o Fwlchgwernog, Nanmor, yn Ardudwy. Efe a anwyd yn y Caegwyn, yn Nanhwynan, ac yr oedd yn ei flodau o 1760 i 1780. Yr oedd Owen Gruffydd yn gyfansoddwr rhwydd ar gerddi; ond ychydig o'i gerddi sydd ar gael yn bresenol. Dywed Mr. W. Jones iddo glywed adrodd rhan o un gerdd o'i waith a wnaethai ar ol myned i fyw o Nanhwynan i Nanmor, a'i bod yn dechreu yn debyg i hyn:

"Nanhwynan wlad enwog, a'i llwyni meillionog,

* * * *


Am dani, wlad eurad, lle ce's i nechreuad,
Haws geny roi uchena'd na chanu."

—(Plwyf Beddgelert, gan William Jones, Porthmadog.)


HYWEL, MORYS AB, oedd daid i Hywel Gruffydd; yr oedd efe yn byw yn y Corlwyni, ac yn ei flodau oddeutu y flwyddyn 1700. Dywedir ei fod yn fardd gwych, a'i fod wedi gadael ysgrif lyfr helaeth o'i waith ar ei ol, yr hwn a adwaenid yn Nanmor wrth yr enw, Y Barcud Mawr. Y mae y llyfr hwn yn ngholl yn bresenol, ond bernir mai ei wyr, sef Morys Powel, a'i cymerodd gydag ef i Landegai, lle, ond odid, y mae i'w gael, pe y gwneid ymchwiliad am dano.—(Plwyf Beddgelert, gan W. Jones, Porthmadog.)


HUMPHREYS, HUMPHREY, D.D., Esgob Bangor. Ganwyd ef yn yr Hendref, Penrhyndeudraeth, Tachwedd 24ain, 1648, a bedyddiwyd ef ar y Sul canlynol, sef y 26ain, yn Eglwys Llanfrothen. Mab hynaf, ac etifedd Richard Humphreys, Ysw., o Margaret, merch Robert Wynn, Ysw., o'r Gesail Gyfarch, yn mhlwyf Penmorfa, Swydd Gaernarfon. Cafodd ei ddysgeidiaeth foreuol yn Ysgol Croesoswallt, lle y bu am rai blynyddoedd o dan ofal ei ewythr a'i dad bedydd, y Parch. Humphrey Wynn, A.M., o Goleg y Drindod, Rhydychain, ficer ac ysgolfeistr y lle hwnw; aeth oddiyno, ar farwolaeth ei ewythr, i Ysgol Ramadegol Bangor, o dan ofal Rhosier Williams, yr hwn oedd y meistr; oddiyno, yn Chwefror, 1665, danfonwyd ef i Rydychain, a derbyniwyd ef i