Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Goleg yr Iesu, ymha le, ar ol cymeryd ei raddau o A.B., yn Hydref, 1670, y derbyniwyd ef yn yr haf canlyuol yn ysgolor o'r coleg hwnw. Yn Tachwedd, 1670, ordeiniwyd ef yn Bangor, gan yr Esgob Morgan; a'r un diwrnod cyflwynwyd ef i fywoliaeth Llanfrothen. Mehefin 12fed, 1672, derbyniodd ei M.A., ac yn Awst dewiswyd ef yn Gymrawd o Goleg Iesu. Rhoddodd berigloriaeth Llanfrothen i fyny; ac yn Tachwedd, cafodd fywoliaeth Trawsfynydd. Yn Tachwedd, 1673, gwnaed ef yn Gaplan i'r Dr. Humphrey Lloyd, olynydd y Dr. Morgan, yn Esgobaeth Bangor; Rhagfyr 16eg, 1680, pryd yr oedd yn B.D., yn Gymrawd o Goleg yr Iesu, ac yn dal Canoniaeth Bangor, urddwyd ef yn Ddeon yr. Eglwys hono. Cymerodd y radd o D.D. yn 1682, ac yn 1689 dyrchafwyd ef i Esgobaeth Bangor, ac oddiyno, yn 1701, symudwyd ef yn Esgob Henffordd, lle y bu farw, Tachwedd 20fed, 1712, yn 64 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn agos i'r allor yn yr Eglwys Gadeiriol hono.

Dywed rhai o'r ysgrifau sydd ger ein bron mai Margaret, merch i'r Dr. Morgan, oedd ei wraig; a dywed y lleill mai Elizabeth, merch ieuengaf Dafydd Llwyd ap Sion ap Dafydd ap Tudur ap Llewelyn, o'r Henblas, yn Llangristiolus, Mon, oedd hi: ond nid ydym yn alluog i benderfynu rhyngddynt. Os bu iddo ddwy wraig, dichon fod y ddwy blaid yn eirwir.

Dywedir fod yr Esgob Humphreys yn hynafieithydd rhagorol, ac iddo ysgrifenu amryw fywgraffiadau o Gymry enwog. Cyhoeddwyd rhai o'r ysgrifau hyn o'i eiddo yn yr argraffiad olaf o'r "Athienia Oxiensis," gan Wood; ac yn y gyfrol gyntaf o'r "Cambrian Register," am 1795.

Dywedir hefyd ei fod yn wr hynod o grefyddol, ac at ddiwedd ei oes yn neillduol felly, &c.— [Gweler Cam. Regis. am 1765; Williams's Em. Welsh.; Brython, Cyf. V. tudal. 379; Golud yr Oes, Cyf. II., tudal 310; Geir. Byw. Lerpwl; Geir. Byw. Aberdâr.]

HUMPHREYS, Parch. RICHARD, o'r Dyffryn, oedd un o weinidogion y Trefnyddion Calfinaidd, yn Sir Feirionydd. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1791. Tueddwyd ef at grefydd pan yn ieuanc; nid oedd yn teimlo ar y cyntaf unrhyw duedd i bregethu, ond cymhellwyd ef i hyny gan flaenoriaid yr eglwys yr oedd yn aelod o honi ar y pryd yn y Dyffryn, oddiar eu hadnabyddiaeth o'i gymwysder at waith pwysig y weinidogaeth. Bu am lawer o