Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flynyddoedd ar ol dechreu pregethu yn dra chartrefol fel pregethwr, ond yr oedd efe yn ei ardal, ac yn yr holl fanau yr arferai fyned iddynt, yn myned rhagddo yn barhaus mewn cymeradwyaeth a dylanwad fel gwr cyhoeddus. Yn y flwyddyn 1853, cafodd ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth; yna efe a ymryddhaodd yn gwbl oddiwrth drafferthion masnach, yr hyn oedd ganddo o'r blaen yn chwanegol at ei dyddyn tir; ymroddodd at wasanaeth crefydd yn gyffredinol ymysg y Trefnyddion Calfinaidd, ac yn neillduol yn Sir Feirionydd, lle y cyfrifid ef, yn enwedig ar ol marwolaeth y Parch. Richard Jones, o'r Wern, yn un o'r prif arweinwyr. Edrychid arno yn fuan fel un o'r "colofnau " yn y cymdeithasfaoedd chwarterol, a pharhaodd yn ei ddefnyddioldeb a'i barch hyd derfyn ei lafurwaith, Yr oedd efe yn athronydd naturiol craffus, ac yr oedd argraff o'r cyfryw, yn gystal ag o'r amaethwr Cymroaidd, yn rhoi rhyw wreiddioldeb mawr ar ei ymddiddanion cyfeillgar, ynghyd ag ar ei weinidogaeth. Er ei fod yn nodedig am ei ffraethder parod, nid oedd dim yn isel ac yn annheilwng yn ei bregethau; yr oedd ei synwyr da, ei wybodaeth gyffredinol, yn gystal a'i ddeall yn yr Ysgrythyr, yn wasanaethgar iawn iddo fel pregethwr yn y pwlpud, ac fel bugail yn yr eglwysi. Yr oedd fel "gweithiwr difefl yn iawn gyfranu gair y gwirionedd." Byddai yn wastad yn rhodio "ar hyd ganol llwybrau barn." Dangosai fod dyn fel pechadur yn ddiesgus, a Christ yn ei aberth yn ddi-brinder, a'r Ysbryd Glan yn ei ras sancteiddhäol yn benarglwyddiaethol, a chrefydd yn yr oll a geisia yn wasanaeth rhesymol, yn gystal ag yn gyfundrefn ddwyfol. Yr oedd ei wendid a'i nychdod wedi ei analluogi i weinidogaethu er’s hir amser, na gwneyd dim yn gyhoeddus; ac ar 15fed o Chwefror, 1863, bu farw yn ei dŷ, yn Ngwern Iago, ger Penal, Sir Feirionydd, pan yn 72 mlwydd oed. Y: oedd yn hollol dawel ei feddwl yn ei holl gystudd. Yr oedd yn gallu sicrhau fod ei enaid yn gorwedd yn dawel ar drefn fawr yr efengyl. Parodd y newydd ei fod wedi marw chwithdod a phryder i filoedd o fynwesau. Yr oedd cofion hoff am dano fel gwladwr, fel cyfaill, fel Cristion, ac fel gweinidog yr efengyl, yn dyfnhau yr hiraeth wrth feddwl na cheid "gweled ei wyneb ef mwy." Claddwyd ei ran farwol wrth gapel y Dyffryn, pan weinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. L. Edwards, M.A., Bala, a'r Parch. Edward Jones, Llanwyddelen, a'r Parch. Rees Jones.—(Geir. Byw., Aberdâr.)