Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd у Parch. Richard Humphreys, o'r Faeldref, Dyffryn Ardudwy, yn haeddu cofiant annhraethol cyflawnach na'r un uchod; ond nid ydym yn gwybod iddo gael yr un o fath yn y byd heblaw y cofiant cynes a wnaeth idd ei hun yn mynwesau miloedd o'r Cymry. Yr oedd yn ddyn mawr anghyffredin mewn corff a meddwl, ac yr ydym yn credu pe cawsai y manteision addysg y mae llawer o'r dynion ieuainc sydd yn cael eu codi i'r pwlpud yr oes hon yn eu cael, y buasai yn un o'r pregethwyr mwyaf a welodd y pwlpud Cymreig erioed. Yr oedd yn un o'r rhai enwocaf a adnabuom ni erioed mewn synwyr cyffredin a ffraethineb; yr oedd hefyd yn hynod o syml a gostyngedig--yn un o'r "rhai addfwyn a etifeddant y ddaear." "Yr anwyl Mr. Humphreys," oedd efe gan bawb a'i hadwaenai. Yn y Faeldref, Dyffryn Ardudwy, y ganed ac y maged ef; ac yno y preswyliodd bron dros ei holl fywyd. Symudodd i Penal yn ddiweddar, trwy briodi Mrs. Hughes, gweddw Mr. Hughes, o'r Wern Iago. Ym briododd y waith gyntaf â Miss Griffith, merch Capt. Griffith, o'r Abermaw, o'r hon y cafodd ddwy ferch, a'r ieuengaf o'r ddwy yw priod y Parch. Edward Morgan, Dyffryn.

Y mae amryw ysgrifau galluog a llawn o synwyr o eiddo Mr. Humphreys wedi ymddangos trwy y wasg:—1, Yr Hen Bobl, Traethodydd, cyf. I., t.d. 269; 2, Y Bobl leuainc, Traethodydd, cyf. II.; t.d, 67; 3, Hwda i ti, a moes i minau, Traethodydd, cyf. IV., t.d. 45; 4, Pobl y mawr gam, Traethodydd, cyf. VIII., t.d. 117. Y mae amryw ysgrifau eraill yn y Traethodydd ag yr ydym yn tybied yn gryf mai efe oedd eu hawdwr, ond nid oes genym sicrwydd. Ysgrifenodd lawer i'r Geiniogwerth a'r Methodist: Yr hên a wyr, a'r ieuanc a dybia; Boddlonrwydd; Modryb Lowri; William Ellis, Maentwrog, a phymtheg neu ugain o lythyrau dan yr enw ' Llythyr yr Hen Wr Mynyddig.' Y mae am ryw o'i ysgrifau hefyd yn y Drysorfa.

JONES, JOHN, milwriad yn myddin Cromwell, ydoedd fab i foneddwr tirion, ac yn hanu o deulu henafol. Ei dad ydoedd Thomas ab John, neu Jones, o Faesgarnedd, ger Drws Ardudwy, i yn Meirion, a'i fam ydoedd Ellen, merch i Robert Wynn ab Ifan, Ysw., o Daltreuddyn, yn yr un gymydogaeth. Mewn hen lyfr prin iawn, yn cynwys hanes y teyrnleiddiaid, dywedir ei ddanfon i Lundain i ddysgu rhyw gelfyddyd, eithr efe a aeth yn was i wr boneddig, ac oddiwrth hwnw at Syr Thomas Middleton, arglwydd