Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

faer Llundain, yn ngwasanaeth yr hwn y parhaodd am lawer o flynyddau. Ar doriad allan y rhyfel cartrefol ymunodd â byddin y Senedd, a chafodd gadbeniaeth ar y gwŷr traed, ac o hyny dyrchafwyd ef yn gyflym i fod yn filwriad (colonel). Darfu i fywiogrwydd ei weithrediadau ei argymell yn fuan i sylw a ffafr Cromwell, gan yr hwn y perchid ef yn fawr, ac ymddiriedwyd iddo amryw wasanaethau pwysig. Penodwyd ef yn un o. ddirprwywyr y Senedd i lywodraethu yr Iwerddon. Y swydd hon, meddir, a gyflawnodd mewn trais a gormes,"gan erlid y sawl a wahaniaethent mewn egwyddor oddiwrtho ef, gan adgodi hen gyfreithiau parth darllaw diodydd, gorthrymu pob tŷ yn Nublin ag oedd yn gwerthu diod, ac ni chaniatai i neb lanw swydd gyhoeddus os gwelid ef yn myned i dafarndy, fel yr oedd myned i ddioty neu eglwys reolaidd yn bechodau yr un mor beryglus a chosbadwy yn ei olwg. Wedi dychwelyd o'r Iwerddon efe a briododd Jane, chwaer Cromwell, a gweddw Roger Whitstone, Ysw., a phenodwyd ef, gan ei frawd-yn-nghyfraith, yn aelod o Dŷ yr Arglwyddi. Pan ddychwelodd Siarl II., a chymeryd meddiant o'r orsedd, y Milwriad Jones, gydag eraill, a wysiwyd o flaen y llys cyfreithiol am y rhan a gymerasai yn nghondemniad y brenin Siarl I., pryd y cafwyd ef yn euog, ac efe a ddienyddiwyd Hydref 17, 1660.—(Wms. Em Welsh.)

JONES, Parch. DAVID, Felinganol. Ganwyd ef Mawrth 31, 1813, mewn ffarm o'r enw Llandanwg, yn Nghwmwd Ardudwy. Ei rieni oeddynt Richard a Catherine Jones. Pan oedd David yn ddwy flwydd oed symudodd ei rieni i'r Borthwen, Penrhyndeudraeth. Cafodd ychydig o ysgol pan yn bur ieuanc gydag un o'r enw Mr. Evans, gweinidog gyda'r Annibynwyr. Yn 1831 symudodd D. Jones yn ol i Landanwg at ei daid. Yn Ebrill, 1833 cafodd ei dderbyn yn gyflawn aelod gyda'r Bedyddwyr yn Cefncymerau, a chyn diwedd yr un flwyddyn dechreuodd bregethu. Tua'r amser yma mabwysiadodd Mr. R. Wynne, Cefncymerau, ef i'w deulu, a rhoddodd ef yn yr ysgol gydag un o'r enw Daniel Davies, yr hwn oedd yn cadw ysgol yn y gymydogaeth. Yn Awst, 1837, aeth i athrofa Pontypool, a bu yno hyd 1840, lle y cyraeddodd radd dda o ddysgeidiaeth, mewn amser mor fyr. Cafodd alwad gan amryw eglwysi, ond eglwys y Felinganol a lwyddodd, lle y gweinidogaethodd am naw mlynedd. Bu farw