Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y nghanol ei ddefnyddioldeb, yn Mehefin 3, 1849, yn 36 oed, a chladdwyd ef wrth gapel y Felinganol. Dywedir ei fod fel pregethwr yn sefyll yn y rhes flaenaf yn Nghymru. Cyhoeddwyd detholiad o'i bregethau.—(Geir. Byw., Aberdâr, t.d. 631.)

JONES, Parch. ISAAC, Ffestiniog. Ganwyd ef yn 1813. Ni chafodd fawr o fanteision dysgeidiaeth yn ei febyd. Pan yn 22 oed ymunodd â'r eglwys Annibynol yn Bethania. A chyn pen hir ymgymerodd a'r gorchwyl pwysig o bregethu yr efengyl. Yn 1838 aeth i'r athrofa, dan ofal y Parch. John Jones, Marton. Ni bu yn yr athrofa ond am ychydig, oherwydd afiechyd; aeth am adeg i Ffestiniog, a bu am ysbaid yn eu cynorthwyo yn Bethania; a llafurus a llwyddianus iawn y bu yn ei dymor byr. "Byddai ei bregethau yn drefnus, ei ddrychfeddyliau yn fywiog, ei hyawdledd fel dyn ieuanc yn fawr, ac arogl crefydd ar yr oll a ddywedai." Yn y 19eg o Fawrth, 1841, pan yn 28 oed, bu farw, o'r darfodedigaeth, er colled fawr i fyd ac eglwys, yn ol pob arwyddion.


JONES, Parch. JOHN RICHARD, o Ramoth, plwyf Llanfrothen, yn Nghwmwd Ardudwy, ydoedd flaenor a sylfaenydd i blaid fechan o Fedyddwyr yn Nghymru. Ganwyd ef yn Brynmelyn, plwyf Llanuwchlyn, yn Nghantref Penllyn, Hydref 13, 1765. Yr oedd ei rieni yn aelodau gyda'r Annibynwyr yn y lle hwnw, a dygasant yntau i fyny yn grefyddol. Dysgodd ddarllen Cymraeg yn dra ieuanc, a chafodd hefyd ysgol ddyddiol am ychydig amser, pryd y dywedir iddo ddysgu darllen Saesneg, ysgrifenu, a rhifo, yn hynod gyflym. Wedi hyn bu gartref am ryw ysbaid yn gweithio ar y tyddyn gyda ei dad, ond darllen a myfyrio oedd ei hoff waith. Yn 1782 bu farw ei fam, ac effeithiodd hyn yn fawr ar feddwl John. Yn 1788 daeth cenadon o'r Deheudir, perthynol i'r Bedyddwyr, i sefydlu achos yo Llanuwchlyn, a daeth J. R. Jones i'r penderfyniad mai bedyddio y crediniol trwy drochi oedd gwir fedydd Cristionogol, ac yn yr un flwyddyn trochwyd yntau. Dechreuodd bregethu cyn hir, ac yn fuan rhoddodd eglwysi Llanuwchlyn, Ramoth, Harddlech, Abermaw, a Thrawsfynydd, alwad unfrydol iddo i fod yn weinidog iddynt, ac efe a urddwyd i'r swydd hono yn Tachwedd 4, 1789. Dywedir ei fod yn bregethwr da, ac yn un o'r rhai mwyaf nerthol a phoblogaidd yn Nghymru yr adeg hono. Dywedir hefyd ei fod yn ddatganwr swynol iawn. Rhwng y blynyddoedd 1796 a 1800 cymerodd cyfnewidiad mawr ęto le yn meddwl Mr. Jones, ac yn ei ddull