Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o bregethu hefyd. Yr achos o'r cyfnewidiad oedd iddo ddarllen: a mabwysiadu syniadau gwaith Mr. M'Lean, o Edinburgh; ond nid oedd gan neb hawl i gweryla âg ef am hyn, ac nid oedd ganddo yntau hawl i feio ei frodyr—y Bedyddwyr Cymreig—am na allent lyncu yr un athrawiaethau, a'u galw yn "Fedyddwyr Babilonig Cymru;" a thua'r flwyddyn 1801 neu 1802 ymneillduodd oddiwrth yr Hen Fedyddwyr, a sefydlodd blaid newydd ei hun. Dywedir nad oedd nemawr o'i gydwladwyr yn rhagori arno mewn dysgeidiaeth, ac ystyried ei fanteision. Ni chafodd ond ychydig o ysgol, eto dywedir ei fod yn gydnabyddus a Groeg, Lladin, a'r Hebraeg, ac yn gyfieithydd rhagorol o'r Saesneg i'r Gymraeg. Yr oedd yn fardd a cherddor gwych; gadawodd rai alawon ar ei ol, a darnau o farddoniaeth—emynau yn benaf—y rhai a welir yn Llyfr Hymnau a gyhoeddodd at wasanaeth ei blaid. Yn 1804 cyhoeddodd Rai Nodiadau ar Lyfrau Andrew Fuller, ac ysgrifenodd rai erthyglau i'r Theological Repository ar y 'Welsh Jumpers.' Bu farw Mehefin 27, 1822, yn 56 oed. Cyfansoddodd R. ab Gwilym Ddu awdl farwnad gampus i'w goffadwriaeth, yr hon sydd yn argraffedig yn Ngardd Eifion. Ysgrifenwyd ei fywgraffiad i'r New Evangelical Magazine am 1823, ac yn Seren Gomer am yr un flwyddyn.—(Gwyddoniadur.)

JONES, Parch. RICHARD, o'r Wern, Llanfrothen, yn Ardudwy. Un o weinidogion galluocaf y Trefnyddion Calfinaidd yn ystod yr haner canrif diweddaf, ac un o enwogion proselytaidd swydd Feirion. Ganwyd ef yn Coed Cae Du, ger Brynengan, swydd Gaernarfon, yn 1773. Unig fab oedd i John a Margaret Pritchard. Pan yn ieuanc anfonwyd ef i Gaernarfon i'r ysgol, lle y daeth yn gydnabyddus i fesur a'r Saesneg, Lladin, a Groeg. Daeth adref at ei dad o Gaernarfon, gan wrthod cymeryd ei ddwyn i fyny yn uch-gyfreithiwr (barrister); a chyn hir bwriodd ei goel bren i blith y Trefnyddion Cafinaidd yn eglwys Brynengan. Daeth rhinweddau Mr. Jones yn fuan i'r golwg; ac yn 1794 dechreuodd bregethu. Yn 1805 priododd Frances, merch Griffith Poole, o Egryn, yn Ardudwy, o'r hon y cafodd ddau fab a thair merch. Symudodd o'r Coed Cae Du i'r Llwynimpiau, plwyf Clynnog, yn yr un șir. Ni bu yno ond amser byr; symudodd i'r Wern, Llanfrothen, yn Ardudwy. Dywedir fod y Wern yn; gartref yr achos crefyddol yn yr ardal cyhyd ag y bu yn aros yno. Bu yn byw am ysbaid byr yn niwedd ei oes yn