Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhosigor, ger Talsarnau, yn Ardudwy; ac yno y bu farw Chwefror 26, 1833, yn 60 oed. Am Mr. Jones fel pregethwr fe ddywedir, "Er na ddywedai gymaint yn yr un faint o amser a'r rhan amlaf, eto ychydig a geid yn dywedyd cyn lleied o eiriau heb eu heisiau ag ef. Y mae yn debyg na ellir dywedyd yr addurnid llawer ar ei fater gan ei ddawn, ond y mae yn ddiddadl yr addurnid ei ddawn a'r cyfan gan ei fater. Yr oedd cynifer o'i wrandawyr a hoffent ddarllen, a dal ar yr hyn a wrandawent, yn dra hoff o'i weinidog" aeth, " &c. Dywedir hefyd am Mr. Jones fel awdwr, "Dangosodd ynddynt gryfder galluoedd meddyliol, ac uchder ehediadau ag a'i gwnai yn deilwng o sylw yr archwaeth fanylaf." "Y rhai, er i'w hawdwr teilwng farw, a barant i'w goffadwriaeth fod yn fendigedig yn Nghymru tra parha ein cenedl, ein iaith, a'n crefydd." Rhestr o'i ysgrifeniadau:—Erthygl feistrolgar ar y Gwrthryfel Ffrengig, yn Seren Gomer. Y mae amryw o'i eiddo yn Goleuad Cymru, megis Rhybudd i bregethwyr a gwrandawyr efengyl; Sylwadau ar y Mammon anghyfiawn, ac Offrymu wrth gladdu, ac ar Allu ac Anallu dyn, i'r Drysorfa, am 1825. Gwnaeth ddau Holwyddoreg, Llyfr Hymnau, Drych y Dadleuwr, 1829. Ysgrifenodd hefyd Eglurhad ar y Beibl, hyd ganol y Salmau, a chyhoeddodd y gwaith ar Bum Llyfr Moses. Yr oedd ganddo lyfr meistrolgar ar Gyfryngdod Crist hefyd ar ei ganol pan fu farw. Hefyd y mae Traethawd ar y Cyfamod Gras galluog iawn o'i eiddo, wedi ym ddangos wedi iddo ef farw, yn y Traethodydd am 1852, t.d. 1. Y mae y rhai a ysgrifenasant ar y Parch. R. Jones, yn y cyffredin, yn gwneyd camgymeriad dibwys o berthynas i'r lle y bu farw. Dywedant mai yn y Wern y bu farw. Er nad yw hyn yn gymaint pwys, eto teg ydyw rhoddi goleuni ar y camgymeriad. Clywsom ein hunain y Parch. David Jones, Glanywern, ger Talsarnau, gweinidog y Bedyddwyr yn Porthmadog, yn adrodd hanesyn hynod mewn cysylltiad â marwolaeth Mr. R. Jones. Dywedai iddo ef a'r diweddar Barch. D. Williams, Talsarnau, fyned i Rosigor i ymweled â'r hen dad yn Israel y noson ddiweddaf y bu: fyw; ac wedi iddynt fyned allan o'r tŷ iddynt glywed cerddoriaeth angylaidd yn yr awyrgylch uwchben. Nid ydym am amcanu rhoddi un math yn y byd o esboniad ar hyn, gadawn i bawb ei esbonio fel y mynont; ond nid yw yn beth annaturiol i ni dybied mai gosgordd angylaidd oedd yno, wedi dyfod i gyrchu un o'r rhai ffyddlonaf o "fendigedigion blant y Tad" adref i ogoniant.