Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dymherau hynaws a siriol iawn wrth natur. Derbyniwyd ef yn aelod pan yn 15 mlwydd oed; a bu yn pregethu am un—ar—ddeg o flynyddau, a bu farw Rhagfyr 27, 1840, yn 26 mlwydd oed. Bu am amser byr yn hynod lafurus gyda'r weinidogaeth. Arferai bregethu yn ddifrifol ac effeithiol iawn. Bu yn athrofa y Bala am ryw ysbaid, ond gorfu arno ymadael oherwydd afiechyd, ac ni bu yn alluog i fyned nemawr o'r tŷ wedi hyny.

ROBERTS, Parch. RICHARD, Dolgellau, oedd weinidog gyda'r Trefnyddion Cafinaidd yn sir Feirionydd. Ele a ymunodd â'r Trefnyddion Calfinaidd tra yr oedd yn ieuanc; bu 46 mlynedd yn ngwaith y weinidogaeth yn eu plith. Efe a deithiodd yn achlysurol trwy holl siroedd Cymru. Yr oedd o ran ei gymeriad personol yn ddifefl a disglaer, a byddai yn pregethu ar amserau yn rymus ac effeithiol iawn. Bu farw Mai 17, 1861, yn 76 oed.—(Geir. Byw., Aberdâr.)

THOMAS, Parch. JOHN, D.D., ydoedd frodor o Ddolgellau yn Meirion, lle y ganwyd ef yn 1681. Addysgwyd ef yn ysgol y Merchant Taylors, Llundain, o ba le y'i danfonwyd, ar draul meistr ei dad, i goleg Catherine Hall, Caergrawnt, lle y cyraeddodd y radd o D.D. Wedi derbyn urddau Eglwysig efe a aeth drosodd i Hamburgh, fel caplan i'r llaw—weithfeydd Seisnig, a bu yn trigianu yn y ddinas hono am lawer o flynyddau. Yn y cyfamser enillodd y fath wybodaeth o'r iaith Germanaidd fel y bu yn golygu cyhoeddiad cyfnodol yn yr iaith hono o'r enw Patriot am hir amser. Tua'r pryd hwn tynodd sylw y brenin Sior II, ac ar gyfrif ei hylithrwydd yn y Germanaeg bu yn cydymdeithio gyda'r brenin yn y rhan fwyaf o'i ymweliadau i'w Etholfa yn y wlad hono. Ei wraig gyntaf oedd foneddiges Ddanaidd, yr hon a briododd efe yn Capenhagen, lle yr enillodd sylw brenin Denmark, a bu ar ol hyn yn ymohebu âg ef. Yn 1736 penodwyd ef i rectoriaeth St. Vendast, Foster Lane, Llundain; ac yn 1740 dewiswyd ef yn Ddeon Peterborough. Yn 1742 gwnaed ef yn Brepend Westminister, ac yn Ganon triganol St. Paul. Yn 1743 dyrchafwyd ef yn Esgob Llanelwy; eithr cyn cael o hono ei gysegru efe a symudwyd i esgobaeth Lincoln, ac a gysegrwyd Ebrill 1, 1744. Symudwyd ef i esgobaeth Salisbury yn 1761, a bu farw Mehefin 20, 1766. Yr oedd yn ddyn tra dysgedig, ac yn enwog am ei ddywediadau ffraeth, ac y mae lliaws o gof chwedlau am dano.—(Wms. Em. Welsh.)