Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

THOMAS, Parch. THOMAS, gweinidog y Wesleyaid, ac a anwyd yn Nolgellau, yn y flwyddyn 1785. Aeth at grefydd yn fore, a dechreuodd bregethu pan yn bur ieuanc. Yn 1808 aeth i'r weinidogaeth, a llafuriodd yn gyffredin gyda chymeradwyaeth mawr yn y gwahanol gylchdeithiau y sefydlwyd ef ynddynt. Yr oedd yn meddu dawn naturiol dda, a diwylliodd ei alluoedd drwy efrydiaeth ddyfal o brif weithiau awdwyr duwinyddol Cymru a Lloegr. Yr oedd ei olygiadau yn eang ar bynciau mawrion Cristionogaeth, a thraddodai ei bregethau, hyd yn nod yn ei hen ddyddiau, gyda gwres a dylanwad. Yr oedd llawer o'i bregethau gyda'r rhai mwyaf gorchestol ac ardderchog a ellid glywed, ac yr oeddynt yn drylawn o wirionedd yr efengyl. Cymerai yn aml destynau anhawdd, megis awdurdod y crochenydd ar y priddgist, &c. Trafodai y fath bynciau yn fedrus, buddiol, a gwresog Yr oedd yn weinidog cymwys y Testament Newydd. Bu farw yn Abermaw, Ebrill 16, 1846, yn 61 oed, wedi bod yn y weinidogaeth 38 o flynyddau. Claddwyd ef yn mynwent Llanaber, ger Abermaw.

WILLIAM, HUMPHREY, ydoedd fardd rhwng 1520 a 1660. Brodor ydoedd o Dywyn Meirionydd. Y mae cerdd o'i waith yn y Blodengerdd, 240.

WILLIAMS, JOHN, (Ioan Rhagfyr), y cerddor o Ddolgellau, a anwyd Rhagfyr 26, 1740, yn Hafodty—fach, plwyf Celynin, yn nghantref Meirionydd. Yn fuan wedi geni John symudodd ei rjeni i dyddyn ger Dolgellau, o'r enw Talywaun. Enw ei dad. oedd W. Robert Williams, ac wrth ei alwedigaeth, gwneuthurwr hetiau brethyn ydoedd. Yr oedd ei fam yn gyfnither i'r hen fardd dysgedig o Gorwen, sef y Parch. Edward Samuel, periglor Llangar. Ni chafodd ond tri mis o ysgol ddyddiol yn ei ieuenctyd, a dygwyd ef i fyny yn yr un alwedigaeth a'i dad. Cafodd dri mis. wedi hyny mewn ysgol yn Amwythig, ac yn fuan iawn hynododd efe ei hun yno fel dysgwr cyflym, ac un hoff neillduol o gerddoriaeth. Yr offeryn cerdd cyntaf a ddysgodd oedd y German flute, yna y trumpet. Pan tua 17 oed, dechreuodd farddoni, ac erbyn cyraedd 22 yr oedd ganddo gywyddau, englynion, ac awdlau gorchestol, wedi eu cynghaneddu ar amrywiol destynau. Bernir iddo ddechreu cyfansoddi cerddoriaeth tua'r un amser, os nad yn gynt, canys ceir iddo gyfansoddi tôn ar y Salm gyntaf pan nad oedd ond