Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei holl waith barddonol a cherddorol yn un llyfr dan y teitl "Difyrwch y Cymro," ond bu farw cyn dwyn y bwriad i ben. Pan roddodd heibio gadw ysgol yn Llanelltyd, symudodd i'r Twll—coch, Dolgellau, lle y bu farw Mawrth 11, 1821, yn 81 oed, a'i briod yn fuan ar ei ol. Canodd R. ab Gwilym Ddu o Eifion awdl ardderchog i'w goffadwriaeth.

WILLIAMS, Parch. JOHN, gweinidog yr Annibynwyr yn Aberhosan, Sir Drefaldwyn. Ganwyd ef yn nghymydogaeth l'ennal yn 1799. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth y Parch. D. Morgan, Machynlleth, wedi hyny o Lanfyllin. Symudodd o Pennal i Dowyn Meirionydd, ac oddi yno i Lanegryn, o'r lle hwn yr aeth i Ysgol Ramadegol, ond mewn cysylltiad â Choleg yr Annibynwyr yn y Drefnewydd, yn awr sydd yn Aberhonddu. Bu am ddwy flynedd yn yr ysgol. Yn 1828, derbyniodd alwad eglwys Annibynol Dinas Mawddwy, yn arglwyddiaeth Mawddwy, lle y bu am ddeng mlynedd yn llafurio gyda llwyddiant mawr. Yn 1829, urddwyd ef, a chafodd alwad gan eglwysi Aberhosan a Phenegoes, ac yn y lle diweddaf y llafuriodd gyda ffyddlondeb mawr hyd derfyn ei oes. "Yr oedd yn llefarwr da, a theithiodd lawer i bregethu yr efengyl." "Yr oedd yn wir gyfaill, ac yn faddeugar i'w wrthwynebydd." "Yr oedd yn weinidog defnyddiol a ffyddlon, ac yn neillduol fanwl at ei ymrwymiadau." Bu farw Medi 12, 1864, yn 66 oed, wedi pregethu am 36 o flynyddau.

WILLIAMS, Parch. OWEN, Towyn Meirionydd, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Swydd Feirionydd. Dywed Geir Byw., Aberdar, mai yn 1787 y ganed ef, ond dywed ef ei hun yn ei ysgrifau a adawodd ar ei ol, ei eni ef yn Bryncrug, plwyf Towyn, Swydd Feirion, Medi 11, 1784. Cafodd ysgol dda pan yn ieuanc gyda Mr. John Jones, Penyparc. Dechreuodd bregethu pan yn 27 oed. "Yr oedd ganddo ddull gwreiddiol o draethu ei syniadau ar wahanol faterion. Pregethai y gair yn gadarn ac yn fanylaidd." Cyfansoddodd a chyhoeddodd liaws o lyfrau gwir alluog. Er y dywed ei fywgraffwyr nad oedd dim anghyffredin yn Mr. O. Williams fel pregethwr nac fel awdwr, &c., prin yr ydym yn cydweled â hyn, mor bell ag yr ydym yn cofio O. Wil. liams. Fel pregethwr, ac, yn ol ein cydnabyddiaeth â'i ysgrifeniadau, yr ydym yn meiddio dywedyd ei fod yn feddyliwr anghyffredin. Y mae ei ysgrifau i fyny mewn nerth ac eglurder i ddim