braidd sydd wedi ymddangos yn y Gymraeg. Yr ydym yn tybied na chafodd y Parch. O. Williams, a lliaws heblaw yntau, erioed eu hadnabod a'u cydnabod yn deilwng genym fel cenedl. Y mae yn wir ei fod dipyn yn helbulus yn ei amgylchiadau tymorol, a'i fantell yn bur lwydaidd, &c., ond beth er hyny, yr oedd y dyn yno, a dyn mawr iawn hefyd! Y mae tri o'i gyfansoddiadau yn argraffedig ger ein bron:-1. "Golwg ar gyflwr dyn, (1.) yn ei greadigaeth, (2.) yn ei gwymp drwy Adda, (3.) yn ei gyfodiad drwy Grist." Aberystwyth, 1840. 2. "Eiriolaeth Iesu Grist." Bangor, 1850. 3. "Traethawd ar Waed Crist." Dolgellau, 1862. Mathau o draethodau duwinyddol ydynt. Y mae'r traethawd ar "Gyflwr dyn" yn bur faith a galluog hefyd,—yn 180 o dudalenau, plygiad 8. Yr ydym yn gwybod iddo gyhoeddi amryw fân lyfrau eraill, ond nid ydynt wrth law, felly 'nis gallwn roddi cyfrif têg o honynt. Pan yn cyfansoddi ei lyfrau, ni byddai ganddo yr un llyfr ond y Bibl. Yr oedd wedi ei gynysgaeddu â chôf cryf iawn. Bu farw Ebrill 15, 1859, yn 75 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Capel Salem, Dolgellau.
WILLIAMS, Parch. WILLIAM, o'r Wern; un o brif bregethwyr Cymru. Er na all Swydd Feirion hawlio Elias o Fon, y Calfinistiaid; Christmas Evans, y Bedyddwyr; na Mr. Aubrey, y Wesleyaid; eto gall hawlio Williams o'r Wern, yr Annibynwyr, fel un o'i phlant, ïe, un o'r rhai enwocaf fagodd Cymru fel pregethwr. Ganwyd ef yn Cwmhyswn (Cwm-y-swn) Ganol, plwyf Llanfachreth, yn nghantref Meirionydd, yn 1781. Yr oedd yn un o saith o blant i William a Jane Probert. Pan tua 13 oed, gafaelodd yr efengyl yn ei feddwl pan yu gwrando ar y Parch. Rees Davies, Saron, Swydd Gaerfyrddin, yn pregethu mewn amaethdy o'r enw Bedd-y-coedwr; a phan oedd tua 14 oed, ymunodd â'r eglwys Annibynol yn Pen-y-stryd, Trawsfynydd, oedd dan ofal y Parch. W. Jones. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod ei fod yn 15 oed; a chyn ei fod yn 19 oed, yr oedd wedi dechreu pregethu. Dechreuodd bregethu yn Pen-y-stryd, a phregethai yno ac mewn tai yn y gymydogaeth gyda chymeradwyaeth anghyffredin. Nid oedd wedi cael ond ychydig ysgol ddyddiol, os dim. Nid oedd ganddo ychwaith ond ychydig lyfrau; y llyfr a hoffai yn nesaf i'r Bibl oedd llyfr ar "Benarglwyddiaeth Duw," gan Eliseus Cole. Ymhen tua dwy flynedd wedi dechreu pregethu, aeth am