Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ryw ysbaid i ysgol yn Aberhafesb, ger Drefnewydd, Swydd Drefaldwyn, a derbyniwyd ef i Athrofa Gwrecsam yn 1803, o dan ofal y Parch Jenkin Lewis; yr oedd y pryd hyn tua 22 oed. Yn 1807 gadawodd yr athrofa, a derbyniodd alwad eglwysi y Wern a Harwd; ac yn Hydref 22, 1808, ordeiniwyd ef. Yn 1817, priododd Miss Rebecca Griffith, o Gaer, o'r hon y cafodd bed war o blant—dau fab a dwy ferch, Derbyniodd Mr. Williams amryw alwadau oddiwrth eglwysi mawrion a chryfion o Dde a Gogledd, ond dewisodd ef yn hytrach wasanaethu yr ychydig braidd gweiniaid yn y Wern, a'r eglwysi bychain eraill oedd dan ei ofal, gan wrthod bywoliaeth fras, a byw ar arian ei briod. Yn 1837, derbyniodd alwad eglwysi y Tabernacl, Great Cross Hall Street, Lerpwl, a rhoddodd eglwysi Rhos a'r Wern i fyny, wedi bod yno ddeng—mlynedd—ar—hugain, a hyny oherwydd ei brofedigaethau chwerwon—claddu ei hoff briod yn 1836, a rhai o'i blant cyn hyny. "Ei hoff waith ydoedd chwilio i mewn i egwyddorion athroniaeth naturiol a moesol, yn enwedig egwyddorion duwinyddion; felly, nid oedd Mr. Williams, y mae'n wir, yn ddyn dysgedig yn yr ystyr a roddir yn gyffredin i'r gair dysgedig, sef cyfarwydd—deb a hyddysgrwydd mewn ieithoedd; eithr, os priodol galw dyn cyfarwydd âg egwyddorion natur, y meddwl, a'r Ysgrythyr, yn ddyn dysgedig, yna yn ddiau, yr oedd Mr. Williams yn un o ysgolheigion penaf yr oes. Pa fodd bynag, dysgodd gymaint tra yn yr athrofa ag a'i galluogai i bregethu yn Saesneg, a digon o Roeg a'i gwnelai yn alluog i ddefnyddio rhyw gymaint ar yr iaith hono." "Fel pregethwr yr hynododd Mr. Williams ei enw yn ei wlad, ac ymysg ei genedl; ac y dyrchafodd efe anrhydedd yr enwad y perthynai iddo yn Nghymru yn fwy na neb arall o'r enwad hwnw yn ei oes." Yr oedd tanbeidrwydd ei areithyddiaeth, cyflawnder ac ystwythder ei ddoniau, bywiog: wydd ei ddychymyg, newydd—deb ei ddrychfeddyliau, a nerth ei hyawdledd yn traddodi yn deffro y broydd, ac yn rhoddi adenydd i'w enw, gan drosglwyddo y son am dano ymhell ac yn agos, fel, i ba le bynag yr elai, byddai tyrfaoedd lliosog yn ymgynull mewn awyddfryd mawr am ei wrando." "Un o'i ragoriaethau fel pregethwr oedd ei symledd (simplicity). Pa fater bynag a gymerai mewn llaw, gwisgai ef â symledd ac eglurdeb rhyfeddol; ni byddai cymylau a niwl a thywyllwch o'i amgylch un amser." Bu farw Mawrth 17, 1840,yn 59 oed.—(Gweler ei Gofiant yn Rhyddweithiau Hiraethog.)