Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DOS. VI.

ENWOGION SWYDD FEIRION—NAS GWYDDYS O BA LE O'R SWYDD.

(HEN A DIWEDDAR.)

ANWYL, ELLIS, ydoedd fardd yn Meirion, tua chanol yr 16eg ganrif. Y mae englynion o anerchiad o'i eiddo yn gysylltiedig â chyfieithiad "Ystyriaethau 'Doetelius ar dragwyddoldeb," gan, Lewis Ellis, o'r Llwyngwern, yn sir Feirionydd, a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1661.

HUGHES, Parch. EDWARD, (Y Dryw) A.M., ficer Bodffari, yn Nyffryn Clwyd. Tybir mai brodor o Feirion ydoedd, a bu am rai blynyddau yn gaplan ar fwrdd llong ryfel. Efe a enillodd y wobr am yr awdl oreu ar " Elusengarwch," yn Eisteddfod Dinbych, pan y collodd ac y dirfawr lidiodd Dewi Wyn. Y ffugenw a ddododd wrth ei awdl ydoedd "Y Dryw," ac wrth yr enw hwnw yr adwaenir ef oreu ymhlith y beirdd. Ceir "Erddygan "'o'i waith yn y Cambro Briton, ii. 232, a chân arobryn ar "Y llongddrylliad," a dernyn prydferth o gywydd "Ymson un o'r Madogiaid," Ceinion Awen y Cymry. Efe a enillodd wobr y Cymrodorion yn 1822, am y gywydd oreu ar "Hu Gadarn." Y mae mwy o harddwch dysgeidiaeth i'w weled yn ei waith nag o flachiadau tanllyd athrylith o'r radd uchaf.

IEUAN BRYDYDD HIR (hynaf) bardd gorchestol yn Meirion rhwng 1440 a 1470. Y mae ychydig o'i waith ar gael. Y mae "Cywydd yn dangos byrdra oes dyn "o'i eiddo yn argraffedig yn y Brython, cyf. iv. 35, lle y dywed Mr. R. Williams (Wmffra Dafydd) mai yn Ardudwy yr oedd aneddle Ieuan Brydydd Hir ; ond nid oedd ganddo ddim yn profi hyny; felly nis gallasem ei roddi yn nosbarth Ardudwy.

JONES, Parch. LEWIS, a anwyd yn sir Feirionydd, yn 1542, ac a gafodd ei addysg golegol yn Rhydychain, lle y derbyniwyd ef