Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn 1562. Etholwyd ef yn gymrawd o goleg All Souls yn 1569. Tua'r un pryd ymgymerodd âg urddau Eglwysig, ac heb gymeryd gradd uwch na B.A., yn un o brifysgolion y wlad hon, symudodd i'r Iwerddon, lle y dyrchafwyd ef yn ddeon Cashel, a thrachefn yn esgob Killaloe, i'r hon swydd oruchel y cysegrwyd ef Ebrill 24, 1633. Yn 1641, pan dorodd y gwrthryfel allan, efe a enciliodd i Dublin, er diogelwch, lle y bu farw Tachwedd 2, 1646, ac efe yn 104 mlwydd oed. Claddwyd ef yn Eglwys St. Werburg, o fewn y ddinas hono.—(Wood's Athen. Oxon.)

JONES, Parch. WILLIAM, ydoedd frodor o Feirion. Wedi derbyn addysg ragorol ymsefydlodd mewn ysgol yn Rhuthyn, a symudodd oddiyno i Ddinbych, lle y dewiswyd ef gan arglwydd milwrol castell y dref hono, o dan Werinlywodraeth Cromwell, i fod yn bregethwr y castell; a thua 1648 gwnaed ef yn weinidog y plwyf. Cymerodd daith i Lundain, er mwyn ymgynghori â Richard Baxter ac eraill o barth Deddf yr Unffurfiad, a dychwelodd gan lwyr benderfynu ymneillduo pan ddelai y gyfraith hono i weithrediad. Wedi ei orfodi i ymadael â Dinbych gan gyfaith y Pum' Milldir, cafodd encilfan ddymunol yn Plasteg, sir Fflint, gyda theulu hynafol y Treforiaid, y rhai o haelfrydedd eu calon a roddasant gyfran o dir iddo gwerth 20p. yn y flwyddyn. Ar of trigianu yno am lawer o flynyddoedd efe a symudodd i Hope, yn yr un sir, lle y bu farw mewn oedran teg, yn Chwefror, 1679, ac yno y claddwyd ef. Yr oedd yn ŵr o ddysg, pwyll, a duwioldeb diamheuol. Efe a gyfieithodd i'r Gymraeg y ddau lyfr canlynol o eiddo Mr. T. Gouge, "Gair at bechaduriaid a saint," ac "Egwyddorion y Grefydd Gristionogol. Cyhoeddwyd a rhanwyd hwy ymhlith tlodion Cymru yn 1676."—(Rees' Noncon. in Wales, 148.)

LEWIS, Parch. WILLIAM, D.D., ydoedd frodor o swydd Feirion, a nai i'r enwog Theodore Price, Bronyfoel, Ardudwy. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn benaf yn Ngholeg Oriel, Rhydychain, lle y cyrhaeddodd y graddau o B.A. ac M.A., a Mai, 1627, yu、 D.D., ac yn Provost ei goleg. Crewyd ef yn D.D., trwy lythyr brenhinol, yn rhedeg fel hyn:—" William Lewis, er's talm yn M.A., ac wedi treulio llawer o flynyddoedd yn efrydydd Duwinyddiaeth gartref, ac ar led. Yr ydym oddiar ein profiad o'i ddiwydrwydd a'i ddoniau mewn rhyw amgylchiadau pwysig, y darfu ei roi ar waith, mewn pethau tramor, ac er defnyddio ei amser