mewn rhyw wasanaeuh pellach, yn ei anrhydeddu â'r gradd o D.D.; ac yr y'm yn deisyf arnoch ei dderbyn a'i raddio yn D.D." Wedi hyny efe a gymerodd raddau, ac er mai meistr ieuengaf ydoedd yn eu coleg, eto, trwy blaid a mwyafiaeth o Gymry meddai Wood) cafodd Provostship y lle hwnw yn 1617, ond efe a'i rhoddodd i fyny yn 1621, oblegid ei fod yn rhy ieuanc i'r swydd, ac aeth dros y môr yn ngwasanaeth y brenin. Wedi dychwelyd yn ol efe a wnaed yn gapelwr i Duc Buckingham, gyda'r hwn yr aeth ar led eilwaith. Pan y dychwelodd o'r neges—daith hono efe a ysgrifenodd "A general relation of a voyage to Rhe, under the command and conduct of the Duke Buckingham," ond ni wyddai Anthony Wood pa un a gafodd ei argraffu ai peidio. Wedi hyny gwnaed ef yn feistr Ysbyty St. Cross, ac yn brepender yn Winchester, yr hyn, ynghyda lleoedd eraill, a gollodd yn amser y gwrthryfel, a diangodd dros y môr, lle y dywedir iddo ddioddef llawer yn achos y brenin. Enillwyd ei feibion drosodd i Eglwys Rhufain. Wedi dychweliad y brenin Sior II. i'r orsedd rhoddwyd yn ol iddo yr hyn a enillodd. Bu farw yn Ysbyty St. Cross, Gorphenaf 7, 1667, a chladdwyd ef dan yr allor yn y lle hwnw.—(Wood's Athen. Oxon.)
MEIRION, SION, bardd yn ei flodeu rhwng 1610 a 1650.
OWEN, LEWIS, brodor o Feirion, ac awdwr amryw lyfrau yn erbyn y Jesuitiaid. Derbyniwyd ef i goleg Eglwys Crist Rhydychain yn 1590, ac efe ar y pryd yn 18 oed, eithr gadawodd y coleg cyn cymeryd ei raddio. Yna bu yn ymdeithio yn amryw o wledydd y Cyfandir; ac ymunodd â chymdeithas yr Iesu yn Valladolid, Spaen, lle y trigianodd am ysbaid fel llygad-dyst chwilfrydus. Sylwodd ar eu dichellion, a chanfu fod eu holl amcanion yn fydol; ymadawodd, a throdd yn elyn anghymodlawn iddynt. Ei lyfr cyntaf a elwid, "The running Register, recording a true relation of the English colleges, seminaries, and cloysters in all foreign parts, together with a brief discourse of the lives, practices, &c, of English Monks, Friars, Jesuits, &c.," 1626. Dilynwyd hwn gan un bron ar yr un testyn: "The unmasking of all Popish Monks, Friars, and Jesuits; or a Treatise of their genealogy, beginnings, proceedings, and present state," 1628. 3, "Speculum Jesuiticum, or the Jesuiticum looking-glass, wherein they may behold Ignatius (their patron) his progress, their own pilgrimage, his life, their beginning," 1629. 4, "A true catalogue