Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awdl hon yn sefyll yn y gystadleuaeth. 2, Englyn i'r Awyr gerbyd:—

"Myg ddyfais o gais teg yw-iawn olwg,
Ni welaf ei gyfryw;
A dyn llên fydd dano'n llyw,
Nofiedydd i'r nef ydyw."

3, Cân i'w frawd pan yn cychwyn i America. Yr un yw hon ag sydd yn y llyfr arall. Y mae Carol Plygain o'i waith yn argraff edig yn Goleuad Cymru am y flwyddyn 1827, t.d. 281. (Mesur, Gwel yr Adeilad.) Hefyd, y mae yn y Drysorfa am Mawrth, 1836, Benillion o'i waith ar ol ei ddau gyfaill, Cadben Evans, 'Jane a Ann,' a'i wasanaeth-forwr, Peter Williams. "Y mae gweithiau y bardd doniol hwn yn lliosog, i'w canfod yn y grealon Cymraeg, ac amlwg y dangosant mai gwr galluog a diwydfawr ydoedd."

JONES, Parch. WILLIAM, ydoedd fab i Cadwaladr Jones, o'r Nant Fudr, wedi hyny o'r Coedcaedu, yn mhlwyf Trawsfynydd, yn Ardudwy. Ganwyd ef yn 1770. Bu am ryw ysbaid mewn ysgol yn Lloegr, ac wedi dyfod adref, gan fod ei dad yn arfer masnachu mewn da byw, arferai yntau fyned i Loegr gyda ei dad. Yn y tymor hwn ymhoffai yn fawr mewn efrydu seryddiaeth a'r cyffelyb ganghenau o wybodaeth, ac yr oedd wedi meddianu lliaws o lyfrau o'r natur hyny: Un tro pan yn Lloegr yn Llundain aeth i wrandaw ar y Parch. W. Romain yn pregethu, a chafodd y bregeth y fath effaith ar ei feddwl fel y cynygiodd ei hun i eglwys y Trefnyddion Calfinaidd yno; a phan ddaeth adref bwriodd ei goelbren gyda'r un enwad yn Nhrawsfynydd. Yn y fan newidiodd ei fywyd a'i efrydiaeth— dechreuodd efrydu duwinyddiaeth yn lle seryddiaeth, ac. Daeth ei ddoniau a'i dduwioldeb yn fuan i'r amlwg, fel y gwnaed ef yn flaenor yn yr eglwys; arferai ddechreu o flaen pregethwyr, ac esbonio penodau o'r Bibl yn achlysurol. Yn 1794 symudodd o Drawsfynydd i Fathafarn, plwyf Llanwrin, swydd Drefaldwyn, trwy briodi Mrs. Susan Watkins, gweddw o'r lle uchod, o'r hon y cafodd naw o blant. Bu yr un mor weithgar gyda'r achos yma ag yn Nhrawsfynydd'; "ac yn flwyddyn 1802 dechreuodd bregethu. "Er nad ydoedd yn hyawdl iawn o ran llithrigrwydd ymadrodd, eto yr oedd ganddo weinidogaeth nerthol." Oherwydd rhyw amgylchiadau yr oedd yn rhaid i Mr. Jones, ynghydag eraill, ymaflyd yn ngwaith