Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Cyfarfod Misol, pan nad oedd ond pregethwr ieuanc. Yn 1805 symudodd o Fathafarn i Ddolyfonddu, yn yr un plwyf, trwy iddo brynu y tyddyn hwnw, ac yno y bu hyd ei farwolaeth. Yn 1811 neillduwyd ef a brodyr eraill i gyflawn waith y weinidogaeth, a dyma oedd y neillduad cyntaf ymhlith y Trefnyddion Calfinaidd yn Nghymru. Dywedir ei fod yn wr cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn dduwinydd mawr ar bynciau sylfaenol crefydd. Bu farw Mawrth 1, 1837, yn 67 oed, er galar i'w deulu, yr eglwys, a'r byd.

JONES, Parch. WILLIAM, Llanfrothen, yn Ardudwy, ydoedd bregethwr ieuanc tra gobeithiol gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Mab ydoedd i John a Catherine Jones, Melinycoed, Llanrwst. Ganwyd ef Gorphenaf 11, 1829. Pan oedd yn ddwy flwydd oed aeth at ei nain, Jane Jones, a'i ewythr, John Williams, Bryngoleu, Llanfrothen, yn Ardudwy; a chyda hwy y bu hyd ei farwolaeth. Cafodd ei fagu yn yr eglwys, ac yr oedd arwyddion arno.er yn foreu fod crefydd yn cael argraff ar ei feddwl. Yr oedd tuedd ynddo at bregethu er yn blentyn. Pan yn 14 oed cafodd ail ymweliad, a bu mewn helynt blin ynghylch ei gyflwr ger bron Duw. Rhoes heibio bethau bachgenaidd ar unwaith, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn eglwys Siloam, Llanfrothen. Llanwyd ef ar unwaith âg awydd cael gan eraill deimlo y pethau a deimlasai efe, a dechreuodd rybuddio a chynghori ei gyfoedion ieuainc; a bu yn offerynol i gael rhai yn ddirwestwyr, a lliaws i'r Ysgol Sabbothol, a gwelodd rai o ffrwyth ei ymdrech yn ymofyn y ffordd tua Sion dan gerdded ac wylo, a hyny cyn iddo erioed ddechreu pregethu yn gyhoeddus. Yr oedd yn hynod ffyddlawn hefyd gyda phob rhan o foddion gras, a chadwai gyfarfod yn wythnosol i ddysgu ac egwyddori y rhai ieuainc. Er ei fod yn llafurus yn dysgu eraill nid esgeulusodd ei hunan; byddai yn ddiwyd ddydd a nos yn diwyllio ei feddwl. Meddianodd yr eglwys syniadau uchel am dano yn fuan, a chymhellasant ef i bregethu, yr hyn a wnaeth gyda'r ymdrech mwyaf tra y cafodd fyw. Bu am ysbaid mewn ysgol yn. Penrhyndendraeth, yn parotoi at fyned i athrofa'r Bala; ond dyrysodd afiechyd ei amcanion. "Y cyfryw oedd nodweddiad y cyfaill ieuanc hwnw. Er ei holl ymdrechion, ei athrylith, a'r enaid mawr a feddai, ynghyda a gobeithion yr eglwys a'i gyfeillion am ei lwyddiant a'i