Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/3

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

————————


Y mae yn arferiad gyffredin gan bob awdwr braidd wneyd math o raglith i'w waith, a rhoddi rhesymau dros alw sylw y wlad ato. Yr ydym yn teimlo y dylai pob awdwr hawlio rhagoriaeth ar bob awdwr arall, ar yr un testyn, a fyddo wedi ymddangos o'i flaen, cyn y gall yn gyfreithlon drethu llogellau i brynu, ac amser y pwrcaswr i ddarllen y cyfryw. Ond ni raid i ni ryfygu gwneyd y fath beth gan nad oes neb, am a wyddom ni, wedi ymddangos ar y testyn teilwng hwn yn ei gysylltiad â Sir Feirionydd, yn flaenorol i'r eiddom ni.

Nid ydym yn ystyried yn ddoethineb ynom ddywedyd dim am allu nac ann anallu yr awdwr, ond gallem ddywedyd llawer am ei an fanteision. Un anfantais fawr oedd gorfod cyfansoddi traethawd mor faith mewn amser mor fyr. Y mae y traethawd, fel y gwelir, yn ffrwyth cystadleuaeth, ac yn llafur oriau hamddenol, am ychydig fis oedd, pan y mae awdwyr llawer galluocach a helaethach eu dysg yn cael blynyddoedd i feddwl ac adfeddwl, ysgrifenu ac adysgrifenu, cyn ymddangos ger bron y byd. Felly y mae yn ddiameu genym y bydd i'r traethawd hwn syrthio yn fyr o ddyfod i fyny â disgwyliadau rhai darllenwyr; ond gobeithiwn y bydd i'r cyfryw ystyried yr amgylchiadau o dan ba rai y daeth i fod.

Dichon y bydd i rai deimlo nad yw pawb sydd ynddo yn deilwng o le ymhlith enwogion; nad ydyw fod dyn wedi cyraedd rhyw ddosbarth neillduol mewn cymdeithas yn ddigon i brofi ei fod yn enwog, os na bydd wedi rhagori ar y cyffredin yn y dosbarth hwnw. Dywedant fod rhai ynddo a ddylasent fod allan, a rhai allan a ddylasent fod i mewn. Byddwn yn foddlawn i addef y diweddaf. Y mae rhai wedi eu gadael allan ag y buasai yn dda genym pe gallasem eu cael i mewn, ond y maent allan o ddiffyg defnyddiau wrth law ar y pryd, ac nid oedd amser yn caniatau i fyned i gasglu y defnyddiau angenrheidiol.