Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dichon hefyd y bydd i rai deimlo ddarfod i ni roddi rhai i mewn nad oedd genym hawl i'w rhoddi ymhlith "Enwogion Swydd Feirion," a hyny am eu bod yn enedigol o siroedd eraill. Hawliasom rai sydd yn fwy adnabyddus i'r wlad yn eu cysylltiad a Sir Feirionydd nag â'r un sir arall, ond nid heb addef yn onest hawliau siroedd eraill ar y cyfryw.

O bosibl y bydd rhai yn teimlo fod ein herthygl ar eu perthynas agos ac anwyl hwy â rhyw berson enwog arall perthynol i'w hoff sect hwy, yn llawer rhy fer, &c. Carem i'r cyfryw ystyried mai nid ein hamcan oedd rhoddi bywgraffiad maith a manwl о neb mewn traethawd o ffurf yr eiddom ni, ond nodi y prif bethau sydd yn profi eu henwogrwydd. Amcanasom roddi y sylw a deilynga pob un yn ol y fantais oedd genym, a hyny yn annibynol ar waed, plaid, a chredo, &c.

Yr ydym yn ystyried fod y dyfyniadau o weithiau Iolo Morganwg a Gwallter Mechain sydd ar ddechreu y traethawd yn well ar natur y testyn na dim a allasem ni wneyd.


EDWARD DAVIES.

Porth Madog, Tach. 20, 1870.