Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gwaith hwn oedd Mr. Charles, ac mai Rowland Hill oedd yr awdwr.—2. "Crynodeb o Egwyddorion Crefydd, neu Gatecism byr i blant ac eraill, i'w dysgu, gan y Parch. T. Charles, A.B., 1789.—3. "Llythyr at Mr. T. Jones, o'r Wyddgrag; yn cynwys Hanes fer o Fordaith lwyddianus y llong Duff, yr hon a anfonwyd i drosglwyddo deg ar hugain o Genhadon i bregethu'r Efengyl i drigolion paganaidd Ynysoedd y Mor Dehenol; ynghydag ychydig anogaethau i gynorthwyo'r gorchwyl pwysigfawr a chanmoladwy, gan y Parch. T. Charles, A.B.; Caerlleon, W. C. Jones, 1798." 4. "Y Drysorfa Ysbrydol;" Caerlleon, W. C. Jones, 1799. Hefyd am y blynyddoedd 1801 1811.—5. "Hyfforddiant i'r Anllythyrenog i ddarllen Cymraeg, &c., 1799."—6. Argraffiad newydd o "Ddiffyniad Ffydd Eglwys Loegr," 1808.—7. Argraffiad newydd o waith Walter Cradog.—8. "A Vindication of the Welsh Methodists," yn erbyn gwaith y Parch. Mr. Owen, person Llandyfrydog, yn Mon.—9. "Yr Hyfforddwr," sef ail argraffiad o'r "Catecism," rhif yr ail yn y rhestr hon.—10. "Esboniad ar y Deg Gorchymyn." 11. "Geiriadur Ysgrythyrol, yn bedair cyfrol; yr hwn a ystyrir yn safon yn yr "oes oleu hon," a bydd felly hefyd am oesau i ddyfod 1—12. Golygodd ddau argraffiad o'r Bibl Cymraeg, yn 1804 a 1814.

Cyhoeddodd dri o'r llyfrau uchod gyda golwg yn uniongyrchol ar yr Ysgol Sabbothol: sef "Y Sillydd," "Yr Hyfforddwr," a'r "Esboniad ar y Deg Gorchymyn," o ba rai y cyhoeddwyd dim llai na thua thri chant a haner o filoedd.[1]

DAVIES, Parch. GRIFFITH OWEN, a anwyd ger y Bala, yn Ionawr 24, 1790. Yn 1805 ymunodd â'r Trefnyddion Calfinaidd. Trwy ddylanwad y diweddar Barch. T. Charles efe a dderbyniwyd i goleg Cheshunt yn 1811, lle y treuliodd bedair blynedd. Efe a urddwyd yn nghapel Arglwyddes Huntington, yn Spa Fields, Llundain. Yn 1815 efe a ymsefydlodd yn Maidenhead, lle y bu yn ddefnyddiol a phoblogaidd dros 21 o flynyddau

  1. Gweler Gofiant y Parch. Thomas Charles. G.C., gan T. Jones Mor— gan's Life of Charles; Williams Emi, Welsh; Methodistiaeth Cymru, Cyf. 1. tudal. 326—348; "Geir. Byw." Liverpool; "Geir. Byw." Aber— dar; Y Gwyddon. Cym., nen "Y Traethodau Llenyddol," Dr. Edwards, efe yw awdwr y ddwy erthygl; Hanes y Cymry, gan y Parch, Owen Jones, tudal, 294 Charles y Bala a'i Amserau