Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hollol. Yr oedd Mr. Charles (fel byn y byddwn yn arferol o'i alw) yn enwog ymhlith yr enwogion, ac felly nid yn unig ymblitb enwogion, Swydd Feirion, ond felly ymhlith enwogion Cymru, ie, yimhlith enwogion y byd hefyd! Y mae yn dda genym allu dywedyd ddarfod i ni gael codiad mawr i'n meddwl pan ymhlith ein gwrth—droedwyr yr ochr arall i'r ddaear flynyddau yn ol, trwy i ni ddyfod i afael a chyfrol o waith Dr. Chalmers, a chanfod fod y dyn mawr hwnw yn talu gwarogaeth fawr i goffadwriaeth y Parch. Thomas Charles o'r Bala. A dywed awdwr arall yn y Traethodydd, "Thomas Charles o'r Bala ydoedd ddyn a fuasai yn enwog ymysg y genedl fwyaf cyfoethog o enwogion. Pe na buasai wedi gwneyd dim ond bod yn un o'r offerynau i sefydlu y Fibl Gymdeithas, fe sicrhasai hyny anfarwoldeb i'w enw; ond ar wahan i hyn, mae ei lafur a'i wasanaeth i'w genedl mewn amrywiol ffyrdd yn teilyngu iddo enwogrwydd diddarfod."

Mr. Charles oedd fab i amaethwr cyfrifol—Mr. Rice Charles, Pantdwfn, plwyf Llanfihangel Abercywyn, ger tref Sant Claer, yn mharth isaf Swydd Gaerfyrddin; ganwyd ef yn Mhantdwfn Hydref 14, 1755. Cafodd elfenau ei ddysgeidiaeth a'i egwyddorion crefyddol yn Llanddowror, ac yn Athrofa yr Ymneillduwyr yn Nghaerfyrddin. Yn 1775, acth i Rydychain, lle y graddiwyd ef yn G. C. Yn 1778, urddwyd ef yn ddiacon. Y weinidogaeth gyntaf a gafodd yn yr Eglwys Sefydledig, ydoedd curadiaeth yn Ngwlad yr Haf, yna Shawbury, yn Swydd Amwythig, ac yn ddiweddaf, Llan y Mawddwy, yn Swydd Feirionydd, Yr oedd mewn undeb a'r Methodistiaid Calfinaidd cyn myned i'r weinidogaeth i'r Eglwys Sefydledig. Yn 1785, efe a ail ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd, ac ni chesiodd mwy am le i weinidogaethu yn sefydlog yn yr Eglwys, ond treuliodd ei oes yn llafurus ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd. Prif orchwyl ei oes oedd sefydlu Ysgolion Dyddiol Cymreig Symudol, yn debyg i gynllun person Llanddowror o'r blaen, ac o'r rhai, fel cangen o'r cynllun y sefydlodd yr Ysgolion Sabbothol. Efe hefyd ydoedd un o sylfaenwyr y Gymdeithas Beiblau Frytanaidd a Thramor. Bu farw yn y Bala, Hydref 5, 1814, yn 59 oed.

Bellach rhoddwn restr o'i Weithiau Awdurol mor gyflawn ag y gallwn :— 1. "Yr Act am bwyso Aur," &c., Caerfyrddin, J. Ross, 1775. Ail argraffwyd ef yn 1778. Y mae yn debyg mai cyfieithydd