Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tallwch yn dri marchawg lledrithiawg y llys. Am ei gysylltiad teuluaidd i'r brenin ceir fod gwahanol awduron yn amrywio yn eu barn. Spencer, y bardd Seisnig, a ddywed ei fod yn dadmaeth i Arthur, tra y tystiai yr hybarch hynafiaethydd hwnw, Robert Fychan, Ysw,, o'r Hengwrt, mai brawd y brenin a feithrinwyd ganddo; drwy gamddeall neu drawsffurfio yr hyd, feallai y casglwyd gan rai haneswyr mwy diweddar, ei fod yn nai i'r brenin. Ond gan nad pa beth am hyny, ymddengys ei fod, i raddau helaeth, yn feddianol ar nodweddion milwraidd yr anfarwol Arthur, oherwydd, yn Mabinogi Iarlles y Ffynon, ceir cofnodiad anrhydeddus o'i enw a'i orchestion. Oddiwrtho ef, ac nid fel y tybiai Camden, oddiwrth yr un Rhufeinaidd o'r enw Caius, y galwyd yr hen balas urddasol yn Mhenllyn Meirionydd, yn Caer Gai. Eto camsynied ydyw priodoli adeiladaeth y lle iddo ef, oblegyd tebygol yw fod ei dad yn trigianu yno o'i flaen ef; gan fod yr hen feirdd yn achlysurol yn cyfeirio ato dan yr enw Cau Gynyr. Dywedir fod Cai Hir yn brif gogydd llys Arthur. Nid oes dim llai na chwech o gyfeiriadau ato yn y Trioedd. Yr oedd yn blodeuo tua'r chweched ganrif.—(Myr. Arch.; Guest's Mabinogion.)

CYNYR FARFAWG, oedd dad i'r Cai Hir uchod, a phenaeth a fu yn byw yn Nghaer Gai yn y bumed ganrif. Yr oedd yn fab i Gwron ab Cunedda, a brawd i Meigyr a Meilyr.


CHARLES, Parch. THOMAS, G. C., Bala. Er nad oedd Mr. Charles yn enedigol o Swydd Feirion, eto yr ydym yn ystyried fod y fath gysylltiad rhyngddynt, fel nad oes hawl gan neb i'n cyhuddo o ieuo yn anghydmarus, oblegyd nid oedd, ac nid yw, yn adnabyddus i neb, ond fel Charles o'r Bala; ac nis gellir meddwl am y Bala heb feddwl am Mr. Charles; na chwaith feddwl am Mr. Charles, heb hefyd feddwl am y Bala ar yr un pryd. Y mae enw Mr. Charles a'r Bala yn anwahanol gysylltiedig tra bydd dwfr yn rhedeg. Yr ydym yn credu nad yw coffadwriaeth un o Enwog— ion Swydd Feirion mor fendigedig yn mynwesau y miloedd Cymry ag ydyw coffadwriaeth Charles o'r Bala. Gallai rhyw un galluog ysgrifenu cyfrolau ar nodweddion, rhinweddau, llafur, a dylanwad, &c., Mr. Charles. Y mae ei ddylanwad i'w weled, nid yn unig ar Gymru, ond ar y byd gwareiddiedig! Felly mae gwneyd rhith o gyfiawnder ag ef, ie, & lliaws eraill sydd yn llawer llai teilwng nag ef, mewn traethawd ar ffurf yr eiddom ni, yn anmhosibilrwydd