Tudalen:Traethawd ar enwogion Swydd Feirion etc.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymhlith y rhai y mae ei benillion—"Deisyfiad na byddo i Dduw fy ngadael yn nghyfyng ddydd marwolaeth." Dyma un o'i waith:

"Pan b'o mherth'nasau yn fy ngado,
Na ad di fi;
Pan b'o nghyfeillion draw yn cilio,
Na chilia di;
Pan b'o f ysbryd yn ymado
O'r babell bridd mae ynddi'n trigo,
Iesu anwyl gwna fy nghofio,
Na ad di fi!"

Yr ydym yn credu fod yr Arglwydd wedi ei wrando yn ei ddymuniad. Bu farw o'r parlys yn mis Ionawr, 1829, yn 20 oed—Coleddid gobeithion mawrion am dano fel llenor a bardd; ond pan oedd y blodeuyn yn ymagor torwyd ef ymaith, a gwywodd. (Geir. Byw., Aberdar.)

EVANS, Parch. ELLIS, D.D., gweinidog y Bedyddwyr yn y Cefnmawr, sir Ddinbych. Brodor ydoedd o Lanuwchlyn. Ganwyd ef Mehefin 22, 1786. Ni chafodd lawer o fanteision addysg yn ei ieuenctyd. Efe a arferai wrando y Parchedig a'r dysgedig George Lewis, D.D., hyd yr amser y symudodd i Ddolgellau, Enillwyd ef i ddyfod at grefydd dan bregeth y Parch. Joseph Richards. Tueddwyd ef i ymuno â'r Bedyddwyr, a derbyniwyd ef yn aelod yn eu plith yn 1806, pan yn 20 mlwydd oed. Yn 1809 dechreuodd bregethu. Wedi hyny aeth i'r ysgol at Mr.. Jesse Jones, i'r Fforddlas; wedi hyny aeth i athrofa'r Bedyddwyr yn y Fenni, dan nawdd Micah Thomas, lle y daeth yn ysgolhaig gwych. Yn 1811 urddwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, a chafodd alwad gan eglwys Llanefydd, yn sir Ddinbych. Ymhen ysbaid symudodd i'r Cefnmawr, lle yr arddelodd Duw ef er gwneyd daioni mawr. Collodd ei wraig a rhai o'i blant yn y lle hwn. Fel pregethwr beirniadol ac ysgrythyrol yr oedd efe yn sefyll yn y rhes flaenaf, ac fel hanesydd eglwysig yr oedd efe yn tra rhagori. Efe a ysgrifenodd amryw lyfrau; ond prif orchest ei oes am y deugain mlynedd olaf oedd casglu Hanes y Bedyddwyr o'u dechrenad hyd ei amser ef. Daeth rhai rhifynau allan, ond bu farw yr hanesydd ar ganol ei waith. Graddiwyd ef yn D.D., gan un o urdd ysgolion America; ac yr oedd y teitl yn eistedd yn dra esmwyth arno. Pan oedd Dr. Evans yn 73 mlwydd oed rhoddodd ofal ei eglwys yn Cefnmawr i fyny, ond ni roddodd yr eglwys ef i fyny, eithr daliodd ei gafael ynddo hyd ei fedd. Galwasant weinidog ieuanc i'w gynorthwyo, sef y Parch.